g
Gwneud cais am drwydded barcio i fyfyrwyr 2022
Mae angen trwydded barcio bellach ar unrhyw un sydd eisiau parcio ym meysydd parcio’r brifysgol, yn cynnwys meysydd parcio'r brifysgol ar gampws Wrecsam.
Bydd trwyddedau parcio ar gael am £40 i fyfyrwyr sy'n dymuno parcio ar y campws. Derbynnir ceisiadau trwy siop ar-lein y brifysgol o 10 y.b, 19 Medi 2022.
Mae lleoedd parcio i fyfyrwyr ar gael ar draws yr ystad a rhoddir trwyddedau parcio ar sail naill ai lle rydych yn byw neu lle rydych yn astudio. Sylwer nad yw'r holl feysydd parcio ar gael i fyfyrwyr barcio ynddynt. Bydd copi caled o'r map yn cael ei gynnwys gyda'r trwydded.
Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas neu'n fyfyriwr ag anawsterau symud, anfonwch e-bost at y Cynghorydd Gwasanaethau Anabledd disabilityservice@bangor.ac.uk i gael cyngor ar ba drwydded sydd ei hangen arnoch.
Nid yw’r ffaith bod trwydded wedi ei rhoi yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i ddeiliad y drwydded. Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded, byddwch yn cytuno i gadw at reoliadau parcio Prifysgol Bangor. Gellir cosbi perchnogion cerbydau sydd wedi parcio mewn ardaloedd nad oes ganddynt hawl i barcio ynddynt.
I wneud cais am drwydded, cliciwch yma. Cofiwch sicrhau eich bod yn nodi eich cyfeiriad post llawn a'ch rhif cofrestru myfyriwr ar y cais. Caniatewch 3 diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais.