Cyrsiau Israddedig
Mae craidd ein rhaglenni israddedig wedi ei selio ar ymchwil gwyddorau chwaraeon, iechyd ac ymarfer. Mae’r ffocws ar ymchwil yn darparu ein graddedigion gyda’r wybodaeth ddiweddaraf yn y maes o’i dewis, sgiliau trosglwyddadwy a dull ymreolaethol o ddysgu.
Mae pa radd yr ydych yn ei ddewis yn dibynnu ar eich diddordebau penodol. Er enghraifft, byddai gradd mewn Gwyddor Chwaraeon (Addysg Gorfforol) yn rhoi’r sgiliau i chi fynd ymlaen i astudio Tystysgrif Addysg er mwyn dysgu lefel A mewn chwaraeon. Byddai Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) ar y llaw arall yn eich darparu gyda sgiliau technegol a’r gallu i addysgu mewn nifer o ddisgyblaethau môr a mynydd.
Dewch i wybod mwy am y Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ag Ymarfer fel maes pwnc a gweld ein cyrsiau.
Astudio trwy’r Gymraeg
Bydd yn bosib astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg ar y mwyafrif o gyrsiau’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Yn ogystal, mae’n bosib cael cyfieithiadau o ddogfennau e.e. llawlyfr myfyrwyr, ac mae’n bosib cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg.