Newyddion Diweddaraf

Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr

Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019

Sut ydyn ni'n paratoi cricedwyr ar gyfer pwysau perfformio ar y cae?

Ym mis Gorffennaf 2019 enillodd tîm criced dynion Lloegr Gwpan y Byd, a dydd Sul 25 Awst 2019 arweiniodd Ben Stokes y tîm i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn 3edd Gêm Prawf y Lludw.

Mae rhaglenni hyfforddi unigol arloesol yn helpu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) i baratoi eu chwaraewyr i wynebu'r pwysau o berfformio ar y cae, ac roeddent yn ffactor allweddol yn llwyddiant diweddar cwpan y byd tîm dynion Lloegr.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019

A yw'r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud?

Yn sgil y pryderon sy'n codi ynglŷn â dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar ganfyddiadau pobl ifanc ynghylch y ddelwedd sydd ganddynt o'u cyrff eu hunain, mae gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn gofyn a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar ein cyfranogiad mewn ymarfer corff a sut, a phwy a beth yw'r ysgogwyr?

Yn rhyfedd ddigon, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi ynglŷn ag effaith y cyfryngau cymdeithasol ar gyfranogiad mewn ymarfer corff, er bod nifer o ddylanwadwyr, hyfforddwyr a chyfranogwyr yn rhannu eu cynghorion a'u buddugoliaethau ar amrywiol lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol. A allai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn ddylanwad cadarnhaol hefyd, ac annog rhai i gymryd rhan mewn ymarfer corff neu i ffurfio delwedd iachach o'u cyrff?

Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2019

Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod

Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch

 

Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; “Ty'd 'laen, fedri di 'neud hyn!” neu “Dwi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!”

Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad â chi eich hun yn yr ail berson: “Ti angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad â chi eich hun yn y person cyntaf, “Dwi angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”

Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019

Cefnogaeth Arbenigol i Dîm Ynys Môn ar gyfer Gemau’r Ynysoedd!

Gyda bwrlwm Gemau'r Ynysoedd yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019