Newyddion: Mehefin 2018

Gwyddonwyr o Fangor yn teithio i Periw i ymchwilio i fywyd yn yr awyr denau

Mae mynyddoedd yn mynd â'n hanadl i ffwrdd yn llythrennol, nid yn unig oherwydd y tirweddau dramatig a diwylliannau nodedig, ond oherwydd fod pob anadliad a gymerwn yn uchel i fyny yn cynnwys llai o ocsigen (a elwir yn hypocsia).  Mae hypocsia'n rhoi straen sylweddol ar yr ysgyfaint, y gwaed, y galon a'r pibelli gwaed wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i ddiwallu angen y corff am ocsigen.  Mae gan ymchwilwyr o'r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Grŵp Ymchwil Eithafion) ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb arbennig mewn deall sut mae pobl yn ymaddasu i fywyd mewn awyr denau.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018