Newyddion: Medi 2019
Beth sydd yn y gwaed?
Mae arbenigydd o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar S4C, Yn y Gwaed.
Yn y gyfres, sy’n dechrau nos Iau, 12 Medi am 8.00, ac sy’n helpu llond llaw o bobl ifanc sydd ar goll yn eu gyrfa i geisio dod o hyd i’w galwedigaeth, mae'r Athro Tim Woodman yn un o’r arbenigwyr ar y rhaglen. Mae’n llunio proffil seicolegol o’r unigolion er mwyn asesu eu cryfderau seicolegol. Gyda’i phrofiad eang o ddilyn achau Cymreig ar draws y byd, yr hanesydd Eilir Ann Daniels fydd yn taflu golau newydd ar hanes teuluol yr unigolion draw yn Aberystwyth. Byddant yna’n awgrymu meysydd gwaith delfrydol i’r unigolyn hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2019
Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr
Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019