Emyr yn taro’r nod ar y cwrt sboncen
Mae deiliad un o Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Bangor, myfyriwr ym mlwyddyn gyntaf ei astudiaethau yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn parhau i brofi llwyddiant ar lwyfan sboncen broffesiynol yn dilyn nifer o fuddugoliaethau nodedig.
Mae Emyr Evans, 20, o’r Rhyl, wedi ychwanegu at ei lwyddiant yn ennill y Coors Newport Open yn gynharach eleni drwy gyrraedd y rowndiau cyn-derfynol mewn twrnameintiau yn Ffrainc a’r Iseldiroedd, a chyrraedd safle uchaf ei yrfa hyd yma yn nhabl byd y PSA (Professional Squash Association), sef 147. Mae hefyd wedi ei ddewis i chwarae yn nhîm Dynion Cymru a fydd yn cystadlu yn y World Team Championships yn Marseille ddiwedd y mis.
Mae sboncen yn rhan fawr o wead teulu Emyr, gyda’i chwiorydd a’i dad hefyd wedi cynrychioli Cymru ar lwyfannau’r byd.
Gan longyfarch Emyr ar ei lwyddiannau diweddar, meddai Cyfarwyddwr Chwaraeon a Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Bangor, Richard Bennett:
“Rydym wedi bod yn datblygu ein rhaglen sboncen ers peth amser bellach a da o beth yw cael rhywun o safon Emyr yma i astudio ac i ymarfer ei gamp. O ganlyniad i gydweithio da gyda’r Ysdgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, rydym yn gallu darparu cefnogaeth i Emyr wrth iddo gyfuno’i ymarfer gyda’i astudiaethau.”
Nod cynllun Ysgoloriaeth Chwaraeon Bangor yw cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Mae’r Ysgoloriaethau, sy’n werth £3,000 y flwyddyn, wedi eu hanelu at fyfyrwyr a fydd yn gallu cynrychioli Prifysgol Bangor yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac sydd o safon ryngwladol yn eu camp.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ysgoloriaethau Chwaraeon, cliciwch yma.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2017