Holl Newyddion A–Y
35 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dringo Kilimanjaro i godi arian i Mind
Bydd 35 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dringo mynydd uchaf Affrica, Kilimanjaro, i godi arian i’r elusen iechyd meddwl, Mind.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2019
A all seicoleg helpu chwaraewyr academi pêl-droed i hybu eu potensial i'r eithaf?
Mae seicolegwyr chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Manchester City i adnabod a deall y nodweddion seicolegol sy'n helpu chwaraewyr ifanc academi i gyflawni eu potensial.
Dros y pedair blynedd nesaf dilynir hynt chwaraewyr academi Manchester City fel rhan o'r project ymchwil unigryw hwn. Mae hyfforddwyr City eisoes wedi nodi'r nodweddion seicolegol y maent hwy'n credu sy'n allweddol i ddatblygu doniau, a chaiff y rhain eu monitro a'u hasesu'n rheolaidd. Caiff y graddau y maent yn darogan gwelliannau yn lefelau perfformiad yn ystod yr amser hwn ei gloriannu.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
A century after the Battle of the Somme, can we finally explain shell shock?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2016
Ail gynhadledd PhD lwyddiannus Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Yn ddiweddar cynhaliodd Bangor ail gynhadledd PhD Cymru gyfan i’r Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gan groesawu dros 50 o ymchwilwyr PhD o bob rhan o Gymru. Datblygwyd y gynhadledd o ganlyniad i’r awydd i gynyddu ymchwil gydweithredol ym maes Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yng Nghymru, yn ogystal â Hyfforddiant Doethurol hynod lwyddiannus ESRC Cymru yn y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2018
Amser graddio i fyfyrwraig lwyddiannus o Sir y Fflint
Mae tair blynedd wedi hedfan heibio i fyfyrwraig ddiwyd o Brifysgol Bangor sydd yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Antur a Thu Hwnt: Cynhadledd Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru, 2018
Wrth i rai sy'n chwilio am wefr anelu am Ogledd Cymru, 'canolbwynt' twristiaeth antur, bydd Canolfan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor a Go North Wales yn cynnal cynhadledd flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn Pontio ar 6 Rhagfyr. Teitl y gynhadledd yw "Antur a Thu Hwnt/Adventure and Beyond".
Mae'r prif siaradwyr yn cynnwys yr Arglwydd Ellis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, y cyflwynydd teledu, Kate Humble, yr awdur a siaradwr cyhoeddus, John Thackara, yn ogystal ag Ash Dykes, o Ogledd Cymru, yr anturiaethwr ac athletwr eithafol a ddaeth i amlygrwydd drwy fynd ati i gerdded ei hun ar hyd Afon Yangtze. Bydd ef yn ymuno drwy gynhadledd fideo.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018
Arloesi mewn hyfforddi'r lluoedd arfog
Tynnwyd sylw at broject sydd wedi trawsnewid hyfforddi recriwtiaid yn y Fyddin Brydeinig ac wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y darperir yr hyfforddiant yn y tri llu arfog, ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar pan enillodd un o wobrau Menter ac Effaith cyntaf y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013
A ydych yn cael digon o ymarfer corff i fynd yn sâl?
A ddylech ymarfer yn galetach neu am fwy o amser?
Mae rasys Marathon a rasys dygnwch yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac felly hefyd yr awch am ymarfer yn ddwys, megis mewn dulliau a dosbarthiadau hyfforddi dwys ‘spike’ neu ‘buzz’. Ond p’un sydd orau i chi? Neu, fel arall, p’un fydd yn achosi’r niwed lleiaf i’ch system imiwnedd?
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn herio’r meddylfryd cyfredol fod ymarferion hwy, llai straenus yn llai niweidiol i’r system imiwnedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2014
A yw'r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud?
Yn sgil y pryderon sy'n codi ynglŷn â dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar ganfyddiadau pobl ifanc ynghylch y ddelwedd sydd ganddynt o'u cyrff eu hunain, mae gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn gofyn a yw'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar ein cyfranogiad mewn ymarfer corff a sut, a phwy a beth yw'r ysgogwyr?
Yn rhyfedd ddigon, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi ynglŷn ag effaith y cyfryngau cymdeithasol ar gyfranogiad mewn ymarfer corff, er bod nifer o ddylanwadwyr, hyfforddwyr a chyfranogwyr yn rhannu eu cynghorion a'u buddugoliaethau ar amrywiol lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol. A allai'r cyfryngau cymdeithasol fod yn ddylanwad cadarnhaol hefyd, ac annog rhai i gymryd rhan mewn ymarfer corff neu i ffurfio delwedd iachach o'u cyrff?
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2019
Bangor yn arwain y sector fel y prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg
Mae’r ystadegau diweddaraf ynglŷn ag astudiaethau cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgolion Cymru wedi datgelu fod Bangor yn parhau i arwain y sector fel y prif ddarparwr gyda mwy yn astudio cyfran helaeth o’u cwrs yn Gymraeg yno nag yn unman arall.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016
Bangor yn cyfrannu at Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru
Mae darlithwyr yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor i chwarae rhan allweddol mewn darparu cefnogaeth ymchwil i athletwyr Cymreig elît wireddu eu gobeithion o ennill medalau yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.
Fel rhan o Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (Welsh Institute of Performance Science- WIPS), mae'r Doctoriaid Sam Oliver, Stuart Beattie ac Anthony Blanchfield o SSHES wedi cael eu penodi'n arweinwyr ymchwil ym meysydd ffisioleg amgylcheddol, gwyddor hyfforddi a ffisioleg perfformio i gefnogi Chwaraeon Cymru i ddarparu strategaethau perfformio ymarferol arloesol i athletwyr elît o Gymru a staff ategol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016
Bangor yn cyfrannu at Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru
Mae darlithwyr yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor i chwarae rhan allweddol mewn darparu cefnogaeth ymchwil i athletwyr Cymreig elît wireddu eu gobeithion o ennill medalau yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.
Fel rhan o Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (Welsh Institute of Performance Science- WIPS), mae'r Doctoriaid Sam Oliver, Stuart Beattie ac Anthony Blanchfield o SSHES wedi cael eu penodi'n arweinwyr ymchwil ym meysydd ffisioleg amgylcheddol, gwyddor hyfforddi a ffisioleg perfformio i gefnogi Chwaraeon Cymru i ddarparu strategaethau perfformio ymarferol arloesol i athletwyr elît o Gymru a staff ategol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016
Bangor yn derbyn yr UK Challenge
Yn nechrau Gorffennaf, cynhaliwyd yr UK Challenge (https://www.ukchallenge.co.uk) yng Ngogledd Cymru a chroesawyd y timau gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2019
Bath poeth wedi ymarfer corff yn gwella perfformiad mewn gwres
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn dangos bod cael bath poeth wedi ymarfer corff am chwe diwrnod yn olynol yn gostwng tymheredd y corff wrth orffwys ac wrth ymarfer ac yn gwella perfformiad wrth redeg mewn gwres. Meddai’r Athro Walsh, sy’n arwain y tîm a arweiniodd y gwaith: “I berfformwyr athletaidd sy’n cystadlu mewn gwres, mae strategaeth ‘ymarfer claer, ymdrochi poeth’ yn cynnig ffordd i ymdopi â gwres.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2015
Beth sydd yn achosi i redwyr marathon a chwaraeon eithafol eraill ddal annwyd?
Bydd rhai o’r rhedwyr ym Marathon Eryri eleni (28 Hydref), sy’n cael ei ddisgrifio fel un o marathonau caletaf yn Ewrop, yn helpu ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor gyda’u hymchwil.
Mae ffisiolegwyr ymarfer corff yn yr Ysgol yn awyddus i ddysgu pam fod rhai rhedwyr i’w gweld yn fwy tebygol o fynd yn sâl neu deimlo’n wael ar ôl rhedeg marathon neu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarfer corff eithafol, tra bo rhedwyr eraill yn aros yn iach.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2017
Beth sydd yn y gwaed?
Mae arbenigydd o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar S4C, Yn y Gwaed.
Yn y gyfres, sy’n dechrau nos Iau, 12 Medi am 8.00, ac sy’n helpu llond llaw o bobl ifanc sydd ar goll yn eu gyrfa i geisio dod o hyd i’w galwedigaeth, mae'r Athro Tim Woodman yn un o’r arbenigwyr ar y rhaglen. Mae’n llunio proffil seicolegol o’r unigolion er mwyn asesu eu cryfderau seicolegol. Gyda’i phrofiad eang o ddilyn achau Cymreig ar draws y byd, yr hanesydd Eilir Ann Daniels fydd yn taflu golau newydd ar hanes teuluol yr unigolion draw yn Aberystwyth. Byddant yna’n awgrymu meysydd gwaith delfrydol i’r unigolyn hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2019
British women will soon be able to serve on the military frontline – but are they ready to fight?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Camp lawn i Rhun
Mae myfyriwr o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac YmarferPrifysgol Bangor wedi cael blwyddyn gyntaf hynod lwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2016
Canfod cysylltiad rhwng Clefyd Llygaid Sych a dadhydradiad
Mae gwyddonwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi profi, a hynny am y tro cyntaf, bod cysylltiad rhwng clefyd llygaid sych a dadhydradiad.
Mae Clefyd llygaid sych (Dry eye disease neu DED) yn gyflwr sy’n gallu bod yn eithriadol o anghysurus, a gall achosi niwed i’r llygaid yn y pen draw. Er ei bod yn anodd amcangyfrifo cost lawn y cyflwr i’r system gofal iechyd ac i gymdeithas yn gyffredinol yn y DU, amcangyfrifir fod cost presgripsiwn ar gyfer triniaethau fel diferion llygad yn costio £2 miliwn y flwyddyn i’r GIG (yn Lloegr yn unig). Oherwydd bod nifer o unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr yn trin y cyflwr eu hunain neu’n prynu triniaethau fel dagrau gwneud dros y cownter, gallai’r gost fod cryn dipyn yn uwch. Mae’r cysylltiad newydd yma yn awgrymu os gellir sicrhau bod cleifion gyda DED wedi’u hydradu’n llawn, y gallai hynny liniaru symptomau DED.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2012
Carfan gyntaf o raddedigion Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff - 13 Gorffennaf 2015
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2015
Cefnogaeth Arbenigol i Dîm Ynys Môn ar gyfer Gemau’r Ynysoedd!
Gyda bwrlwm Gemau'r Ynysoedd yn dod i ogledd Cymru pan fydd gemau Ynys Gibraltar 2019 yn dechrau ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf, mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â Chymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn i roi cefnogaeth arbenigol i athletwyr y Gemau wrth iddynt ymgeisio am lwyddiant yn y gemau.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019
Child migrants taken to Britain: now they need support and psychological care
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson Sydd yn astudio ar gyfer Doethuriaeth gyda'r Ysgol Seicoleg a Sefydliad seicoleg Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2016
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf
Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Chwaraewr RGC yn astudio ym Mangor
Mae chwaraewr rygbi gyda dyfodol addawol wedi dechrau astudio ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd James Lang o Surrey yn astudio gradd mewn Gwyddor Chwaraeon yn St Mary’s University yn Twickenham, pan gafodd alwad gan Rupert Moon sef Rheolwr Cyffredinol RGC (Rygbi Gogledd Cymru).
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2014
Confidence can be a bad thing – here's why
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stuart Beattie, darlithydd Seicoleg a’r Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017
Coroni Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn Junior British Hill Climb Champion 2019
Chris Mann, myfyriwr sydd newydd ddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwyddorau chwaraeon, sydd wedi ennill y teitl Junior British Hill Climb Champion 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Creu Canolfan Syrffio o Ragoriaeth yn Eryri
Mae Prifysgol Bangor a Surf Snowdonia wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn paratoi’r ffordd i gydweithio ar amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015
Cwpan y Byd 2014: Mae ennill gornest gicio o'r smotyn yn gofyn am wytnwch meddwl: ond yn ffodus, mae'n rhywbeth y gellir ei ddysgu
Mae'r gornestau cicio o'r smotyn, sy'n penderfynu tynged gêm, wedi dechrau yng Nghwpan y Byd 2014. Ar ôl dwy awr o chwarae sy'n dreth gorfforol ac emosiynol ar y chwaraewyr, rhaid iddynt sefyll mewn rhes a fesul un, herio'r gôl geidwad o'r smotyn. Mae canlyniad cic o'r smotyn yn creu arwyr a dihirod, ac mae unrhyw un sy'n gwylio - p'un a ydyn nhw'n cefnogi un o'r timau sy'n chwarae ai peidio - yn gallu cydymdeimlo á'r chwaraewyr hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2014
Cydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Undeb Rygbi Cymru i helpu i ddatblygu gweithlu hyfforddi Gogledd Cymru
Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cael cynnig cyfle i fod yn rhan o weithlu hyfforddi rygbi yng Ngogledd Cymru, diolch i gydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Undeb Rygbi Cymru (URC).
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2016
Cyfraniad Bangor at lwyddiant Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru yn cael sylw yn yr adroddiad blynyddol
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn nodwedd amlwg yn adroddiad blynyddol Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru yn 2019 (tud 18).
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2019
Cyhoeddi Gŵyl Newid Ymddygiad o bwys
Ystyrir bod newid ymddygiad yn gyfrwng hanfodol bwysig i wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau i ymateb i'r newidiadau cyfoes cymdeithasol a demograffig sylweddol rydym yn eu gweld yng Nghymru a thu hwnt.
Cynhelir Gŵyl Newid Ymddygiad (#BehFest16) bwysig am bythefnos ym Mhrifysgol Bangor rhwng 9-20 Mai. Bydd yn cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf ym maes newid ymddygiad i unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwybod am y technegau newid ymddygiad hyn a'u rhoi ar waith er budd eu sefydliadau neu'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016
Cymhwyso gwyddoniaeth!
Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2017
Cymryd bath poeth yn helpu Tîm Cymru i baratoi ar gyfer gwres Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia
Mae'n debyg y bydd y tymheredd yn uwch na 30°C ar yr Arfordir Aur yn Awstralia a bydd y gwres yn rhoi straen sylweddol ar yr athletwyr sy'n cystadlu yn Gemau'r Gymanwlad.
Er mwyn paratoi at y gwres, mae athletwyr Tîm Cymru wedi bod yn neidio i mewn i fath poeth ar ôl eu sesiynau hyfforddi. Meddai Rob Condliffe, sy'n ffisiolegydd yn Athrofa Chwaraeon Cymru ac sy'n helpu i baratoi athletwyr Tîm Cymru at Gemau'r Gymanwlad, "Mae'r bath poeth yn ddull ymarferol iawn sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ddod i arfer â gwres".
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018
Cyn Bêl-droediwr Proffesiynol yn graddio
Mae cyn bêl-droediwr proffesiynol a ddaeth yn ôl adref i Ogledd Cymru i astudio ym Mhrifysgol Bangor yn graddio yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn dychwelyd o Daith Ddringo yng Nghanada
Mae mynyddwr proffesiynol profiadol sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith ddringo heriol ym mynyddoedd yRockies yng Nghanada.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2015
Cynnal cystadleuaeth Sboncen Merched y PSA yn y Brifysgol am y tro cyntaf
Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor, fydd y llwyfan ar gyfer cystadleuaeth sboncen merched y PSA (Professional Squash Association) yr wythnos hon – y gystadleuaeth gyntaf o’i bath i gael ei chynnal yn y Brifysgol a’r gyntaf hefyd i’w chynnal yng Nghymru. Gan ddechrau ar ddydd Mercher 20 Mehefin, bydd y brwydro dwys dros bum niwrnod yn arwain at gêm derfynol y gystadleuaeth, a gwobr o $5000, i’w chynnal ddydd Sul.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018
Dadorchuddio Sêr Cwpan y Byd Nesaf Lloegr
Tra bo llwyddiant diweddar cricedwyr Lloegr yng Nghwpan y Byd yn dal yn fyw yn y cof, mae ymdrechion i baratoi'r genhedlaeth nesaf o gricedwyr eisoes ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
Darryl yn llwyddo i amddiffyn ei Deitl Pencampwriaethau’r Byd
Mae myfyriwr sydd wedi ennill teitlau Pencampwriaethau Cic-Focsio ers 2009 yn cymryd amser o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor i amddiffyn ei Deitl Pencampwr Cic-Focsio’r Byd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf
Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A.
Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014
Defnyddio’r Gymraeg mewn chwaraeon
A Bangor University academic was invited to present at the Welsh language Commissioner’s launch event for a new pack 'Welsh: give it a go!' which is a guide for using the Welsh language in sport.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016
Disgyblion yn cael blas ar fywyd Prifysgol
Profodd bron i hanner cant o fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled gogledd Cymru fywyd prifysgol drostynt eu hunain ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2018
Dr Aamer Sandoo yn Ennill Cyllid gan yr Elusen Awyr Las
Dyfarnwyd £68,000 gan yr Elusen Awyr Las yn ddiweddar i Dr Aamer Sandoo (darlithydd mewn ffisioleg gardiofasgwlaidd, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymddygiad) i ymchwilio i effeithiau atchwanegiadau dietegol nitrad ar ostwng y risg o glefyd y galon ymysg cleifion ag arthritis rhiwmatoid. Cynhelir y project mewn cydweithrediad â Dr Jonathan Moore a chlinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016
Dull ‘Plane Easy’ yn gwneud golff yn hawdd
Er gwaethaf manteision ymarfer corff ysgafn i gymedrol a rheolaidd i iechyd, mae lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru’n dal i fod yn isel. Mae’n bosib i golff lenwi’r bwlch hwnnw ac arwain at nifer o fanteision; fodd bynnag, mae’r niferoedd sy’n chwarae golff wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r hyfforddwr golff, Matthew Wharton (o The Golf Performance Studio ym Mangor), un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ceisio mynd i’r afael â hyn gyda’i ddull chwarae golff “Plane Easy”.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014
Dunn-a gamp! Emily yn llwyddo yn Awstralia
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor bellach yn rhif 24 yn y byd yn dilyn ei llwyddiant yn ras yr UCI Gran Fondo World Championships yn Awstralia y mis diwethaf – a hithau ond yn beicio ers 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Dwy fyfyrwraig leol yn cipio Gwobrau Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol
Mae dwy fyfyrwraig leol wedi derbyn Gwobrau Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor eleni.
Dan gynllun arloesol Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor, mae myfyrwyr ail a thrydedd blwyddyn yn cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddynt ymdopi â bywyd prifysgol. Mae’r cynllun wedi ei gynnal yn y Brifysgol ers dros 20 mlynedd, ac mae’n un o’r ffyrdd y mae’r Brifysgol yn sicrhau amgylchedd gefnogol i’w myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2019
Dyfarnu Aur i Fangor
Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
Dyfarnu Medalau Cwmni’r Brethynwyr i ddwy fyfyrwraig eithriadol
Mae dwy fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar.
Dyfarnwyd y medalau gan Gwmni’r Brethynwyr, un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. Dyrniad o fedalau sy’n cael eu rhoi bob blwyddyn. Mae’r medalau’n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr eithriadol, yn seiliedig ar gyrhaeddiad academaidd ac ymwneud â’r gymuned academaidd o fewn y brifysgol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chyfraniad diwylliannol a chymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith ymchwil, cefnogaeth fugeiliol a mentora.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2013
Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr talentog ym maes chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio gradd mewn unrhyw bwnc.
Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon. Eu pwrpas yw helpu myfyrwyr dawnus o safon uchel i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a’u perfformiad chwaraeon i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2018
Dyfarnu Ysgoloriaethau Merched mewn Gwyddoniaeth
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i ddwy fyfyrwraig ragorol - Hannah Davies a Lily Stokes. Roedd y ddwy yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y ddwy radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2017. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018
Dyfodol pryd y gallai lensys cyffwrdd ‘deallus’ ddarogan eich risg o gael annwyd cyffredin: Gwrthgyrff hylif dagrau a’r annwyd cyffredin
Pam y gall rhai pobl fynd trwy gydol y gaeaf heb yr arwyddion lleiaf o annwyd, tra bo eraill fel pe baent yn cael pob annwyd sy’n mynd o gwmpas?
Yn ôl astudiaeth newydd gan Grŵp Ymchwil Prifysgol Bangor i Eithafion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, gallai fod modd rhagweld y tebygolrwydd i gyfranogwyr gael annwyd cyffredin trwy ddadansoddi lefel y gwrthgyrff mewn hylif dagrau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015
Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru.
Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg, Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig, Busnes, Dylunio Cynnyrch, Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
ECB yn sicrhau help gwyddonwyr o Brifysgol Bangor o ran profi dawn cricedwyr
Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi troi at wyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor i’w cynorthwyo o greu model darogan talent i helpu i adnabod cenedlaethau cricedwyr penigamp yn y dyfodol.
Amcan y project ymchwil rhwng yr ECB a’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn y Brifysgol yw dilysu model ar gyfer darogan talent ym maes criced. Defnyddir hwn i helpu dewiswyr a hyfforddwyr i asesu ac adnabod chwaraewyr ifainc addawol ac i gynyddu’r graddau y daw’r rhain yn gricedwyr rhyngwladol llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2011
Efallai fod mwy o ffactorau nag a dybiech yn dylanwadu ar eich dygnwch wrth ymarfer
Yn awr fod mis Chwefror wedi cyrraedd, a ydych yn cael anhawster i gadw at gynllun ymarfer eich adduned Flwyddyn Newydd? Gall fod mwy i’ch llwyddiant neu’ch methiant nag sy’n amlwg.
Yn ôl canfyddiadau ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caint, roedd gweld delweddau cadarnhaol neu negyddol yn isganfyddol, neu am gyn lleied o amser fel na wyddoch eich bod wedi’u gweld, yn cael effaith ar yr adeg yr oedd unigolion yn gorflino wrth ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015
Effaith ymchwil i arthritis rhiwmatoid wedi'i gydnabod yn yr Unol Daleithiau
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2017
Efrydiaeth PhD mewn Seicoleg Chwaraeon
Gwahoddir ceisiadau am efrydiaeth PhD lawn-amser dair blynedd a gyllidir gan yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor. Goruchwylir yr ymgeisydd llwyddiannus gan Dr James Hardy (cyd-oruchwylir gan Dr Ross Roberts a'r Athro Tim Woodman) o'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2017
Efrydiaeth PhD ym maes Ffisioleg Gardiofasgwlaidd Glinigol
Mae Dr Aamer Sandoo, Dr Jonathan Moore a Dr Yasmeen Ahmad yn gwahodd ymgeiswyr i wneud cais am efrydiaeth PhD wedi ei chyllido'n llawn (£13,000 y flwyddyn, ynghyd â ffioedd dysgu ar gyfradd y DU/UE) fydd yn ymchwilio i effaith ymyriadau newydd a all leihau'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd mewn cleifion ag arthritis rhiwmatoid. Bydd y project yn adeiladu ar brojectau cydweithredol presennol gyda Chanolfan Rhiwmatoleg Peter Maddision a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2015
Eight myths about women on the military frontline – and why we shouldn't believe them
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson Myfyrwraig doethuriaeth yn astudio gydag Ysgol seicoleg ac Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2016
Eisteddfod brysur arall i Brifysgol Bangor yn Eisteddfod Llanrwst 2019
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cymryd rhan flaenllaw eto eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
Yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm y Maes, bydd rhaglen lawn o weithgareddau hefyd ar stondin y brifysgol ar y Maes eto eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019
Emyr yn taro’r nod ar y cwrt sboncen
Mae deiliad un o Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Bangor, myfyriwr ym mlwyddyn gyntaf ei astudiaethau yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn parhau i brofi llwyddiant ar lwyfan sboncen broffesiynol yn dilyn nifer o fuddugoliaethau nodedig.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2017
Enillydd Gwobr Goffa Llew Rees 2010.
Mae'r wobr chwaraeon uchaf ym Mhrifysgol Bangor, Gwobr Goffa Llew Rees, sydd yn cael ei ddyrannu i'r chwaraewr mwyaf amlwg ymysg y myfyrwyr wedi'i ddyfarnu eleni Vicky Gottwald. Mae Vicky'n fyfyrwraig ôl-radd ac yn astudio doethuriaeth mewn Gwyddor Chwaraeon.
Mae Vicky wedi derbyn swm o £750 i gyfrannu at wella'i pherfformiad.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2010
Exercise alone does not lead to weight loss in women – in the medium term
Dyma erthygl yn Saesneg gan Hans-Peter Kubis o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2017
Exercise can fast-track your workplace well-being - here's how
Dyma erthygl yn Saesneg gan Myfyrwraig ymchwil PhD Rhi Willmot o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2019
Extreme athletes gain control through fear, and sometimes pay the price
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Athro Emeritiws Lew Hardy a Matthew Barlow, Ymchwilydd ôl-radd mewn Seicoleg Chwaraeon yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015
FfitCymru a Phrifysgol Bangor yn gwella iechyd a ffitrwydd y genedl
Bydd arbenigeddau Prifysgol Bangor i’w gweld ar S4C dros yr wythnosau nesaf wrth i raglen newydd ac arloesol, FfitCymru, gael ei darlledu. Bydd y rhaglen yn dilyn 5 aelod o’r cyhoedd wrth iddynt gyflwyno newidiadau sylweddol i’w bywydau er mwyn colli pwysau a datblygu eu ffitrwydd. Yn wahanol i’r rhelyw o raglenni tebyg a welwyd yn y gorffennol, bydd modd i wyliwyr y rhaglen ddewis yr aelod y maent hwy yn uniaethu gyda nhw fwyaf ac yna dilyn yr un rhaglenni ffitrwydd a defnyddio’r un ryseitiau ar gyfer bwytau’n iach er mwynt iddynt hwythau hefyd brofi’r un buddiannau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2018
FFIT Cymru yn ôl am ail gyfres – a Mared yn arwain y ffordd!
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019
Gall datblygu ‘Gwytnwch Meddwl’ helpu pêl-droedwyr i ddelio â phwysau’r gic gosb sy’n penderfynu pwy sy’n ennill gêm
Mae’n bosibl mai cymryd y gic gosb sy’n pennu tynged y tîm mewn gêm Gynghrair yw’r sefyllfa fwyaf straenus y mae’n rhaid i bêl-droedwyr ei hwynebu. Mae angen iddynt ganolbwyntio’n llwyr ar y dasg, fel na fydd y twrw nac unrhyw aflonyddwch arall o’r eisteddle yn effeithio arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2012
Gall yfed gormod o ddiodydd siwgraidd bylu’n gallu i flasu a’n mwynhad ohonynt
Os ydy'ch plant yn sychedig- yna anogwch nhw i yfed dŵr- dyna’r neges iechyd glir sy’n deillio o ymchwil diweddar ar ddewis blas ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mehefin 2011
Galw am arbenigedd Seicoleg Chwaraeon Bangor ym Malaysia
Mae'r Athro Nicky Callow wedi cael ei gwahodd i Brifysgol Malaya (UM) yn Kuala Lumpur fel rhan o'u cynllun cadair wadd lle mae academyddion o bob rhan o'r byd yn cyflwyno gweithdai a seminarau yn y brifysgol. Mae UM ar frig y rhestr o brifysgolion ym Malaysia ac yn ôl rhestr QS o brifysgolion y byd mae yn y 150 uchaf (safle 29 yn Asia).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016
Gavin yn cael ei ddewis i chwarae i dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru
Wrth i baratoadau Bale, Ramsey, Hennessey a gweddill carfan bêl-droed Cymru fynd rhagddynt ar gyfer pencampwriaeth UEFA Ewro 2016 yn Ffrainc eleni, bydd un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Gavin Lloyd-Jones, hefyd yn awyddus i ganfod cefn y rhwyd fel aelod o dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2016
Grant Ymchwil i Ddeiliad Ysgoloriaeth y Coleg
Mae fyfyriwr ymchwil ym Mhrifsygol Bangor, sydd yn un o ddeiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi sicrhau grant ymchwil uchel ei fri gwerth €5,000 gan Sefydliad Hydradeg Ewrop (European Hydration Institute neu’r EHI). O dan nawdd y Coleg mae Julian Owen yn fyfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer lle mae’n ymchwilio ym maes Ffisioleg Ddynol ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012
Grŵp o Brifysgol Bangor i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia
Yr wythnos hon, bydd academyddion o Brifysgol Bangor yn arwain taith i Fynyddoedd yr Himalaia fel rhan o broject ymchwil fydd yn edrych ar salwch cysylltiedig â bod ar ben mynyddoedd uchel. Bydd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald, Gabriella Rossetti sy'n fyfyriwr PhD, a James Pollard sy'n fyfyriwr israddedig Gwyddorau Chwaraeon - i gyd o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac YmarferPrifysgol Bangor - yn rhan o dîm o 55 o bobl a fydd yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd. Bydd y tîm yn dechrau'r daith ar 20 Mawrth ac yn dychwelyd ar 25 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Grŵp o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o Fynyddoedd Himalaia
Mae academyddion o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith i Fynyddoedd Himalaia fel rhan o broject ymchwil i salwch cysylltiedig ag uchder.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015
Grŵp Ymchwil Eithafion yn bresennol mewn cynhadledd ryngwladol o fri
Mae pedwar crynodeb o eiddo Dr Jamie Macdonald a’i fyfyriwr PhD, Dr Naushad Junglee, wedi cael eu derbyn ar gyfer cyflwyniad yn Wythnos Arennau 2012, cyfarfod pwysicaf y byd ar arenneg, a gynhelir gan Gymdeithas Arenneg America.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012
Gwella Dygnwch! Mae niwro-adborth EEG yn gwella perfformiad beicio
Mae Francesca Mottola, ymchwilydd PhD o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, wedi ennill yr ail wobr yng ngwobrau Ymchwilwyr Ifanc yng Nghyngres Ryngwladol FEPSAC am ei gwaith arloesol ar berfformiad niwro-adborth ac ymarfer corff.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2019
Gwirfoddoli yn ffordd o fyw i Elan
Mae Elan Môn Gilford, myfyrwraig o Lanfairpwll sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn un o blith ond 20 o bobl ledled y byd sydd wedi derbyn Gwobr Etifeddiaeth Diana (Diana Legacy Award) am waith gwirfoddol.
Rhoddir y Wobr yn enw’r Dywysoges Diana i bobl ifanc sydd yn gosod esiampl wrth roi o’u gwirfodd er mwyn trawsnewid bywydau eraill. Mae’r wobr yn cydnabod pobl ifanc sydd yn mynd y tu hwnt i’w bywydau dyddiol hwy er mwyn creu a chynnal newid positif.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017
Gwobrau am effaith ymchwil Prifysgol Bangor
Mae tri phroject sydd wedi cael effaith eithriadol mewn meysydd gwahanol iawn i'w gilydd wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Effaith Ymchwil a Menter cyntaf Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Bangor 2016
Mae Prifysgol Bangor am ddathlu rhagoriaeth yr ymchwil a gynhyrchir gan y Brifysgol mewn noson Wobrwyo newydd i’w chynnal yn y Brifysgol fis Rhagfyr, a newydd gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer y Gwobrau.
Bydd y Gwobrau newydd yn rhoi sylw haeddiannol i ymchwilwyr unigol a thimau ymchwil neilltuol y Brifysgol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Noson Wobrwyo sydd i’w chynnal yn Pontio, nos Lun Rhagfyr 5 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2016
Gwobr Goffa Llew Rees yn cael ei rhoi i chwaraewr rygbi hynod addawol
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei Gwobr Goffa Llew Rees flynyddol i un o chwaraewyr rygbi addawol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016
Gwobrwyo cyfraniad at wyddorau chwaraeon ac ymarfer
Mae Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (British Association of Sport and Exercise Sciences, neu BASES) yn falch o gael anrhydeddu Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor ac aelod o’r Sefydliad Ymarfer Elît, gyda Chymrodoriaeth BASES i gydnabod ei gyraeddiadau proffesiynol gwerthfawr, ei sgiliau, ei wybodaeth a’i wasanaeth i BASES a’r gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016
Gwyddonwyr o Fangor yn teithio i Periw i ymchwilio i fywyd yn yr awyr denau
Mae mynyddoedd yn mynd â'n hanadl i ffwrdd yn llythrennol, nid yn unig oherwydd y tirweddau dramatig a diwylliannau nodedig, ond oherwydd fod pob anadliad a gymerwn yn uchel i fyny yn cynnwys llai o ocsigen (a elwir yn hypocsia). Mae hypocsia'n rhoi straen sylweddol ar yr ysgyfaint, y gwaed, y galon a'r pibelli gwaed wrth iddynt weithio gyda'i gilydd i ddiwallu angen y corff am ocsigen. Mae gan ymchwilwyr o'r Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Grŵp Ymchwil Eithafion) ym Mhrifysgol Bangor ddiddordeb arbennig mewn deall sut mae pobl yn ymaddasu i fywyd mewn awyr denau.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2018
Gwyddonwyr yn asesu potensial gwahanol ddiodydd o ran hydradu
Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Stirling, Loughborough a Bangor yn galw am greu mynegai hydradiad i ddiodydd er mwyn helpu pobl i ddeall sut y gall gwahanol ddiodydd sicrhau bod gennych ddigon o hylif yn eich corff.
Fe ddarganfu prawf ymchwil diweddar a brofodd effeithiau 13 o ddiodydd cyffredin ar gynhyrchu wrin a chydbwysedd hylifau, bod amryw o hylifau'n cael eu cadw yn yr corff am yr un amser â dŵr, os nad yn hirach na hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2016
Hannah yn Ennill Medal Aur yn Awstria
Enillwyd medal aur yn 12fed Grand Prix Codi Pwysau Ewropeaidd Rhyngwladol Vienna, Awstria gan fyfyriwr Ysgoloriaeth Chwaraeon Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015
Help gan Blizzard
Gallai siacedi arbennig sydd wedi’u gwneud yng Nghymru helpu i gadw athletwyr Cymru’n gynnes pan fydd y gystadleuaeth yn poethi yn Glasgow.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2014
Helpu cwmni lleol sydd wedi datblygu ac ennill y farchnad ar gyfer cynnyrch awyr agored
Roedd Rheolwr Cyfarwyddwr y cwmni ac entrepreneur a ddyfeisydd, Derek Ryden, o Gwmni Blizzard Protection Systems Cyf. yn ymwybodol fod ganddo gynnyrch da. Fodd bynnag, mae cydweithio efo arbenigwyr yn Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi ei alluogi i werthfawrogi’n union pa mor effeithlon ydy’r cynnyrch mewn gwirionedd. Mae’r wybodaeth wedi bod o fudd i’r cwmni marchnata’u cynnyrch yn fwy effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2011
Helpu Huw â Her y Copaon
Mae sawl aelod o staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Dr Ross Roberts, Dr Stuart Beattie, Dr James Hardy, Dr Eleri Jones, Dr Anthony Blanchfield, Dr Andy Cooke a Kevin Williams) wedi bod yn cynorthwyo anturiaethwr lleol i gyflawni her eithriadol ar hyd copaon Eryri.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019
Her Ddringo yn Alasga i Fyfyrwyr Bangor
Efallai mai dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yw’r pâr ieuengaf erioed i ddringo’r Cassin Ridge ar Wyneb Deheuol mynydd Denali yn Alasga.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2012
How operational deployment affects soldiers' children
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017
How to help the women and girls rescued from Islamic State
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2016
Jessica yn trosi ei hangerdd dros chwaraeon yn ymchwil rygbi
Mae myfyrwraig a ymgeisiodd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy wasanaeth UCAS Extra, a hynny ar ôl newid ei dewis faes astudio, yn graddio heddiw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
Llysgennad Chwaraeon Ifanc yn Graddio
Bu i Jamie Turley, a gludodd y dorch Olympaidd a baton Gemau'r Gymanwlad, raddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014
Mae bywyd allan yna: Manteision gweithgareddau awyr agored
The most recent figures from the Welsh Government show that outdoor activity tourism in Wales is worth £481 million. Outdoor activity providers such as Surf-Lines need to continue to attract visitors and locals.
The number of people regularly involved in outdoor activities has grown in the last thirty years, and researchers have reported increases in self-esteem and other positive outcomes as benefits of taking part. In other words, taking part in outdoor activities provides significant psychological and long-lasting benefits. Surprisingly, researchers still do not understand why and how these benefits occur.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014
Mae gwybod sut a ble i edrych yn lleihau'r risgiau wrth yrru
Gallai hyfforddi gyrwyr ifanc a newydd i sylwi ar gyrion eu maes golwg leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd. Damweiniau traffig y ffordd yw un o'r prif bethau sy'n achosi marwolaethau yn fyd-eang a gyrwyr newydd, ifanc sydd fwyaf tebygol o fod mewn damweiniau o'r fath.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i aros yn safle 14 ym Mhrydain, ac mae’r Brifysgol yn ail yng Nghymru mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr (Times Higher Education Student Experience Survey 2015).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2016
Mae yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn arwain at fagu bloneg
Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos bod yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn rheolaidd yn gallu arwain at fagu bloneg, atal metabolaeth braster a chodi lefel y glwcos yn y gwaed. Felly os ydych yn sychedig ac yn meddwl am estyn am ddiod feddal llawn siwgr - peidiwch - gall niweidio eich iechyd tymor hir. Estynnwch am ddiod o ddŵr yn lle hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2012
Meddyliwch ddwywaith pwy ydych yn ei ddewis yn arweinydd: mae narsisiaid yn ddeniadol ar yr olwg gyntaf ond ychydig sy’n arweinwyr da yn y tymor hir
O ddigwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd i wleidyddiaeth bleidiol, mae hyfforddwyr, capteiniaid ac arweinwyr pleidiau'n cael eu pwyso a'u mesur drwy'r adeg.
Mae arweinyddiaeth yn agwedd bwysig ar fywyd bob dydd hefyd, ac rydym i gyd yn dewis arweinwyr, neu fan leiaf yn gweithio gydag arweinwyr. Er enghraifft, rydym yn gwybod pwy ydi 'bos' yn y gwaith, pwy ydi'r 'capten' mewn gêm bêl-droed ar b'nawn Sul, a phwy 'sy'n rheoli' adref.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015
Myfyriwr ac aelod staff o Brifysgol Bangor yn cael eu dewis ar gyfer Pencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop 2016
Mae myfyrwraig ac aelod staff o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop, a gynhelir yn Førde, Norwy rhwng 10-16 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2016
Myfyriwr arobryn yn paratoi ar gyfer astudio PhD
Mae gweithio’n galed a bod yn benderfynol wedi talu ar ei ganfed i fyfyriwr o Brifysgol Bangor yr wythnos hon wrth iddo raddio â gradd dosbarth cyntaf yn ogystal ag ennill rhai o brif wobrau’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Myfyriwr o Brifysgol Bangor i arwain taith i lawr afon nad yw ar fap
Mae myfyriwr gwyddor chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i arwain caiacwyr dŵr gwyn gorau Prydain mewn taith estynedig i ddarganfod rhannau newydd o'r dyfroedd gorau yn y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2015
Myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi'i ddewis ar gyfer Tîm Rygbi'r Gynghrair Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i Dîm Rygbi'r Gynghrair Myfyrwyr Cymru ar gyfer Cystadleuaeth y Pedair Gwlad, a fydd yn cael ei chwarae ym Mhrifysgol Caeredin rhwng 22-30 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn dychwelyd o raglen hyfforddi pêl-droed yn Ne Affrica
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o raglen hyfforddi pêl-droed yn Ne Affrica yn sylweddoli ei fod 'yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl'.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2018
Myfyriwr PhD i fod yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain
Mae Niamh Reilly wedi cael ei dewis yn Ymgynghorydd Technegol i Gemau Olympaidd Arbennig Prydain ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Gweithgaredd Motor (MATP).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012
Myfyriwr Prifysgol Bangor wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru
Mae myfyriwr sy’n astudio Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor wedi cael i ddewis ar gyfer carfan rygbi Dan 20 Cymru yng Nghystadleuaeth y 6 gwlad 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2016
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn cael ei ddewis ar gyfer Tîm Undeb Rygbi Prifysgolion Cymru
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i chwarae i dîm Undeb Rygbi Myfyrwyr Cymru ar gyfer y tymor hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2015
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn un o’r rhai ieuengaf erioed i ennill gwregys du ail radd Jiu Jitsu Japaneaidd
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yw'r bedwaredd ferch yn y byd, ac un o’r rhai ieuengaf erioed i gael gwregys du ail radd mewn Jiu Jitsu Japaneaidd
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016
Myfyriwr y gyfraith yn cipio gwobr chwaraeon
Mae Adran Hamdden a Chwaraeon Prifysgol Bangor wedi dyfarnu Gwobr Goffa Llew Rees eleni i Benjamin Pritchard, myfyriwr sy’n astudio’r Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013
Myfyrwyr Bangor yn fuddugol mewn Pencampwriaethau Codi Pwysau yn Lloegr
Enillodd dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor fedalau aur ac arian yn y Pencampwriaethau Lloegr 2015 ar gyfer Codi Pwysau, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Castleford, Gorllewin Swydd Efrog.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru.
Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon yn cynadledda ym Mangor i ddysgu am yr ymchwil ddiweddaraf
Bydd myfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon o bob cwr o’r DU yn ymweld â Phrifysgol Bangor yr wythnos hon (22-23 Mawrth) i rannu eu gwybodaeth a chlywed gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes yng Nghynhadledd Flynyddol Myfyrwyr y Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer (British Association of Sport & Exercise Sciences).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016
Myfyrwyr PhD yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn helpu i drefnu'r gynhadledd ôl-radd Cymru gyfan gyntaf
Roedd y gynhadledd ôl-radd Cymru gyfan gyntaf mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a gynhaliwyd ddydd Gwener, 21 Ebrill ym Mhrifysgol Abertawe yn y campws ar y bae yn llwyddiant ysgubol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2017
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cael eu dewis ar gyfer sgwad Pêl-droed Prifysgolion Cymru
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i chwarae i dîm pêl-droed Prifysgolion Cymru mewn gemau cyfeillgar rhyngwladol yn erbyn Prifysgolion yr Alban a Phrifysgolion Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd yn Amlwch
Wrth i ni edrych ymlaen at Bencampwriaeth Euro 2016, mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi bod yn cynorthwyo tîm pêl-droed newydd sbon yn Amlwch mewn cyfres newydd ar S4C.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2016
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn mynychu digwyddiad sgrinio'r gêm derfynol yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA
Cafodd dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor eu dewis ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth unigryw yn ddiweddar gan fwynhau sgrinio'r gêm derfynol yng Nghynghrair y Pencampwyr fel rhan o bartneriaeth Prifysgol Bangor gyda Phrifysgolion Santander.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2019
New study calculates alcohol cancer risk in cigarette equivalents to help communicate risk
Mae’r Athro Mark Bellis o’r Coleg Gwyddorau Dynol wedi bod yn ymwneud ag ymchwil sydd yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019
Nid "am ei fod yno" yn unig y mae ei ddringo’n apelio
Efallai bod y mynyddwr enwog, George Mallory wedi rhoi’r ateb bachog, bod pobl yn dringo Everest 'oherwydd ei fod yno'. Ond mae’r rhesymau dros beth sy’n ysgogi pobol i chwilio am chwaraeon eithafol megis mynydda tir uchel lawer mwy cymhleth. Mae seicolegwyr chwaraeon Prifysgol Bangor yn cael eu cydnabod am fid yn flaenllaw am sefydlu'r cymhellion seicolegol dros gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Rhagfyr 2011
Obese people enjoy food less than people who are lean – new study
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Hans-Peter Kubis o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol a'r papur ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2018
Ôl-ddoethur Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi prif anerchiad yng Nghymdeithas Ryngwladol Diogelwch Sgïo
Yn ddiweddar, cyflwynodd Dr Matt Barlow brif anerchiad yng Nghymdeithas Ryngwladol Diogelwch Sgïo, y 22ain Gyngres a gynhaliwyd rhwng 17 – 22 Ebrill yn Innsbruck, Awstria. Enw sgwrs Matt oedd "Motives for participation in high risk sport."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ebrill 2017
Papur 'Cyntun yn y prynhawn yn gwella dygnwch perfformiad rhedwyr' yn 4ydd yng Ngwobrau Papurau Gorau EJSS
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi cynnig y dystiolaeth arbrofol gyntaf i ddangos y gall cyntun byr fod o fudd i berfformiad athletwyr dygnwch.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019
Parkrun Enthusiasts can still get their fix - even during lockdown
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, Prifysgol Abertawe, gynt yn fyfyrwraig ymchwil ym Mangor, a'r Athro John A Parkinson, Ysgol Seicoleg Profysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2021
Partneriaeth newydd i ddatblygu talent rygbi gogledd Cymru
Gallai chwaraewyr rygbi ifanc talentog wireddu eu breuddwyd o chwarae dros Gymru diolch i bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Bangor a Rygbi Gogledd Cymru (RGC). Drwy ysgoloriaethau chwaraeon Prifysgol Bangor ar gyfer athletwyr elît, mae saith myfyriwr sy'n chwarae i RGC, yr ochr rygbi ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru, wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch gan barhau i chwarae rygbi ar lefel uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016
Pedwaredd Gŵyl Wyddoniaeth Bangor ar y gorwel
Mae cynllunio brwd at bedwaredd Ŵyl Wyddoniaeth flynyddol Bangor ar hyn o bryd. Cynhelir yr Ŵyl Wyddoniaeth yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg o ddydd Gwener 14 Mawrth i ddydd Sul 23 Mawrth 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014
Pennaeth yr Ysgol - Jamie Macdonald yn siarad yng Nghynulliad Cymru yng Nghaerdydd
Ymunodd Jamie Macdonald, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, ag aelodau o'r Physiological Society, Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhai o Aelodau'r Cynulliad mewn digwyddiad dathlu athrafodaeth grŵp panel yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2020
Penodi Pedwar Darlithydd Newydd i Brifysgol Bangor
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi helpu penodi nifer o unigolion newydd i weithio mewn gwahanol feysydd ym Mhrifysgol Bangor er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a hynny am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2014
PhD Gwyddor Chwaraeon a ariannwyd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn ennill gwobr gan Gymdeithas Seicolegol Prydain am y PhD orau yn y DU
Mae project PhD gan Leonie Webster wedi cael y wobr am y Traethawd PhD Gorau yn 2019 gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Hefyd, mae ei hymchwil arloesol eisoes wedi cael dylanwad uniongyrchol ar hyfforddi hyfforddwyr proffesiynol yn y DU a'i wella.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi meithrin perthynas effeithiol iawn gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ers dros ddegawd. Mae'r Bwrdd Criced wedi'i leoli yn Loughborough ond pan fyddant eisiau cymorth gyda datblygu talent a materion yn ymwneud â seicoleg, maent yn gofyn i Brifysgol Bangor am gymorth.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2020
Presenoldeb cryf gan Brifysgol Bangor yng Ngemau'r Gymanwlad 2018
Bydd staff, myfyrwyr ac alumni Prifysgol Bangor yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Prifysgol Bangor yn agor Labordai Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles
Mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi £1m mewn darpariaeth newydd sy'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf. Dyma'r Ganolfan Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles (Canolfan PAWB Centre), sydd yn rhan o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, sydd wedi ennill bri'n rhyngwladol.
Bydd dau labordy ffisioleg ymarfer newydd, lle'r ymchwilir i'r ffordd mae'r corff dynol yn gweithredu, yn ogystal â labordy dysgu mawr newydd, yn ymestyn a chyfnerthu adnoddau dysgu ac ymchwil presennol yr Ysgol. Mae'r rhain yn ymdrin â'r amrywiaeth o fuddion iechyd a geir drwy ymarfer a gweithgarwch corfforol a hefyd yn ymchwilio i berfformiad, chwaraeon ac amgylcheddau eithafol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017
Prifysgol Bangor yn cynorthwyo gydag adolygu Lefel A Addysg Gorfforol
Daeth 25 o ddisgyblion lefel A o Ysgolion Ynys Môn, Ysgol Tryfan, Ysgol Friars, Ysgol y Berwyn ac Ysgol Syr Hugh Owen at ei gilydd i gymryd rhan mewn diwrnod adolygu Addysg Gorfforol ddwyieithog ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016
Prifysgol Bangor yn drech ym Marathon Eryri
Prifysgol Bangor a dra-arglwyddiaethodd ym Marathon Eryri, wrth i fyfyrwraig bresennol ennill categori’r Menywod ac i fyfyriwr graddedig lleol ennill categori’r Dynion.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2013
Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i dair myfyrwraig ragorol. Emily Louise Dunn, Emily O’Regan a Kathryn Howard. Roedd y tair yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y tair radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017
Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014
Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi’u henwi’n enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014
Prifysgol Bangor yn Llongyfarch athletwyr Gemau’r Gymanwlad
Manteisiodd Prifysgol Bangor yn ddiweddar ar y cyfle i longyfarch yr aelodau hynny o garfan llwyddiannus Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad sydd â chysylltiad â Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2018
Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd
Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn.
Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017
Rwy'n siŵr na hoffech i'r stori hon fod amdanoch chi: twyllo mewn chwaraeon
Beth sy'n gyrru chwaraewyr a mabolgampwyr proffesiynol i dorri rheolau eu camp gan obeithio na chânt eu dal - ac yn y gobaith y daw â gogoniant iddyn nhw ac i'w tîm?
Math o gymeriad yw craidd y mater, yn ôl ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP) Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2016
Santander yn hybu doniau pêl-droed merched Prifysgol Bangor
Aeth Magi Hughes a Charlotte Walker o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor ar daith einioes i Barcelona a stadiwm chwedlonol Camp Noufis Mawrth fel rhan o fenter Santander UK i gefnogi doniau'r merched mewn chwaraeon ac yn eu bywydau proffesiynol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019
Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno.
Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth.
Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb.
Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Sut mae dysgu peirianyddol yn gwella cricedwyr Lloegr
Mae'n debyg na fyddai unrhyw un yn meddwl am gysylltu dysgu peirianyddol arloesol gyda chriced o'r safon uchaf. Fodd bynnag, datblygiad dysgu peirianyddol a alluogodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatgelu i Fwrdd Criced Lloegr a Chymru (ECB) y ffactorau hynny a all arwain at ddatblygu cricedwyr o'r radd flaenaf i chwarae ar lefel siroedd neu'n rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2019
Sut ydyn ni'n paratoi cricedwyr ar gyfer pwysau perfformio ar y cae?
Ym mis Gorffennaf 2019 enillodd tîm criced dynion Lloegr Gwpan y Byd, a dydd Sul 25 Awst 2019 arweiniodd Ben Stokes y tîm i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Awstralia yn 3edd Gêm Prawf y Lludw.
Mae rhaglenni hyfforddi unigol arloesol yn helpu Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) i baratoi eu chwaraewyr i wynebu'r pwysau o berfformio ar y cae, ac roeddent yn ffactor allweddol yn llwyddiant diweddar cwpan y byd tîm dynion Lloegr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2019
Swyddog Cefnogi Project Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Gwahoddir ceisiadau am y swydd ran-amser (£11.03 yr awr) dros dro (3 mis) uchod yn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio â Dr Eleri Siân Jones ar broject a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef astudiaeth ddilysu draws ddiwylliannol o holiadur Pryder Ynghylch Perfformio.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2015
SYMUD - Rhoi Ymchwil ar Waith
Bellach gall cleifion hemodialysis wneud mwy o ymarfer corff wrth dderbyn triniaeth i achub bywyd, diolch i wefan newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ymarfer corff.
Mae'r Ffisiolegwyr Ymarfer, Dr Jennifer Cooney a Dr Jamie Macdonald o Ganolfan PAWB Prifysgol Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi eu hymchwil ar waith drwy greu SYMUD, gwefan ac adnoddau sy'n helpu pobl sydd â chlefyd yr arennau deimlo'n well trwy symud mwy, er eu bod yn gorfod treulio llawer iawn o amser ar eu heistedd tra maent yn derbyn triniaeth hanfodol i achub bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019
Taking a hot bath after exercise improves performance in the heat
Dyma erthygl yn Saesneg Yr Athro Neil Walsh, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2015
The men who impersonate military personnel for stolen glory
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson Sydd yn astudio ar gyfer Doethuriaeth gyda'r Ysgol Seicoleg a Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2016
The truth about the links between military service and crime
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson, myfyrwraig doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a'r Ysgol Gwyddorau, Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2016
This is what happens to footballers' brains when they miss penalties
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2016
Tri arall yn dilyn gradd doethur ym Mangor o dan nawdd y Coleg Cymraeg
Three new Bangor University students are among the nine to receive funding from the Coleg Cymraeg Cenedlaethol to enable them to follow a doctorate degree through the medium of Welsh over the next few years. The three are among nine Scholarship winners announced and join another nine students at Bangor University, who are already studying under the scheme.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015
Trigain mlynedd ers dringo Everest – Prifysgol Bangor yn dal i fod yn rhan o’r hanes
Gan ei bod mor agos at fynyddoedd Eryri, nid yw’n syndod bod Prifysgol Bangor wedi ei chysylltu’n annatod â hanes dringo Mynydd Everest. Byddai Mallory ac Irvine yn dringo mynyddoedd Eryri’n rheolaidd cyn eu hymgais aflwyddiannus i ddringo Everest ym 1924.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2013
Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).
Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017
Want to develop 'grit'? Take up surfing
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot, myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch
Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; “Ty'd 'laen, fedri di 'neud hyn!” neu “Dwi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!”
Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad â chi eich hun yn yr ail berson: “Ti angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad â chi eich hun yn y person cyntaf, “Dwi angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019
Y Grŵp Ymchwil Eithafion i fynd i Fynyddoedd Himalaia yn 2013?
Mae Dr Jamie Macdonald a Dr Sam Oliver wrthi’n trafod ag arweinyddion Taith nesaf Medic Journey i Mera Peak, Himalaia, yn 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2012
Ymarfer ynddo’i hun ddim yn ddigon i ferched golli pwysau
Mae ymchwil newydd o Brifysgol Bangor wedi dangos nad yw ymarfer corff ynddo’i hun yn arwain at i ferched golli pwysau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017
Ymchwil Rhagorol yn Ysgol y Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Mae ymchwil gan Dr Stuart Beattie et al wedi cael ei amlygu fel enghraifft ragorol o ymchwil gan olygydd y cyfnodolyn "Sport, Exercise and Performance Psychology (SEPP)".
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017
Y rhesymau dros gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel yn cael eu datgelu am y tro cyntaf
Ers dros 50 mlynedd, meddyliwyd mai "chwilio am gyffro" oedd cymhelliad pobl dros gymryd rhan mewn gweithgareddau risg uchel. Mae gwaith ymchwil newydd yn herio'r farn simplistig honno'n llwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2013
Ysbrydoli ar gyfer Perfformiad Brig
Tu ôl i bob athletwr Olympaidd llwyddiannus, bydd ganddo ef neu hi hyfforddwr sy'n eu cefnogi bob cam o'r ffordd i gyflawni eu nod o ddod â medal Olympaidd adref gyda nhw. Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnal ymchwil i’r effaith ysgogol a gaiff hyfforddi ac arweiniad mewn gwahanol leoliadau er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wrth wraidd hyfforddiant ac arweiniad effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2012