Monitro a Mewnfudo
Mae'r Tîm Monitro yma i'ch helpu chi gydag unrhyw ymholiadau yn ymwneud â Fisas neu Bresenoldeb.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Addysg Ryngwladol i sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo bod croeso iddo/iddi a'u bod yn cael gwybodaeth gyson a chywir.
Ein horiau swyddfa yw dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am i 5pm.
Dyma ein cyfeiriad e-bost: academicengagement@bangor.ac.uk.
Swyddog Monitro a Mewnfudo'r Brifysgol yw Lynne Hughes. Mae Lynne yn rheoli'r Tîm Monitro a gellir cysylltu â hi ar: 01248 382776
I ymholiadau Myfyrwyr Israddedig Cartref; UE a rhyngwladol, cysylltwch â Sian Lewis. Mae Sian yn monitro presenoldeb y Myfyrwyr Israddedig ac Ôl-raddedig a Addysgir. Gellir cysylltu â hi ar: 01248 383130
I ymholiadau gan fyfyrwyr ôl-radd rhyngwladol, cysylltwch â: Bronwen Hayes. Mae Bronwen yn monitro presenoldeb yr holl fyfyrwyr ôl-radd ymchwil a PhD. Gellir cysylltu â hi ar: 01248 388436
Gwybodaeth Myfyrwyr Rhyngwladol, Cyfrifoldebau a Ffurflenni (DES/CAS)
Cwestiynau Cyffredin
Beth ddylwn i ei wneud os wyf wedi colli fy Mhasbort / Fisa / Cerdyn BRP?
Os ydych wedi colli'ch cerdyn BRP, yn gyntaf peidiwch â chynhyrfu. Cyn gynted ag y gwyddoch eich bod wedi colli'r cerdyn BRP, rhowch wybod i'r Ganolfan Addysg Ryngwladol oherwydd byddant yn gallu eich helpu gyda'r cais i gael un yn ei le. Dyma gyswllt defnyddiol i'w tudalen gyda gwybodaeth yn ymwneud â Phasbortau a Fisas a gollwyd.
Dyma gyswllt o'r we-dudalen Gov yn ymwneud â BRP a gollwyd.