Ein llety

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl.

SICRWYDD O LETY YN Y FLWYDDYN GYNTAF

Pam byw mewn neuadd?

Os mai ni yw eich Dewis Cadarn, rydym yn sicrhau ystafell ar eich gyfer yn ystod y flwyddyn gyntaf o'ch gradd israddedig, cyn belled â'ch bod yn gwneud cais ar gyfer cwrs sy'n cychwyn mis Medi ac yn ei gyflwyno cyn y dyddiad cau. Byddwn yn anfon e-bost atoch pan ddaw'n amser ymgeisio a byddwch yn gallu dewis yr ystafell rydych chi am fyw ynddi trwy ein system archebu ar-lein.

Mae ein holl lety'n hunanarlwyo ac mae gan y mwyafrif o'n hystafelloedd ystafelloedd ymolchi preifat en-suite. Mae ein holl neuaddau preswyl o fewn pellter cerdded i brif adeiladau'r Brifysgol a chanol y ddinas.

Cymerwch gip ar ein map campws i weld lle mae ein llety.

Beth sydd yn gynwysiedig?

Mae pob preswylfa ar y campws yn cynnwys:

  • Wi-fi a chysylltiad i'r rhyngrwyd gyda gwifren
  • Holl filiau (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan) wedi'i gynnwys gyda rhent
  • Aelodaeth o'r gampfa a Campws Byw

Sut i wneud cais

Mae'r system archebu llety yn agor ym mis Ionawr. Unwaith rydych wedi nodi Prifysgol Bangor fel eich Dewis Cadarn trwy UCAS, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost i'ch gwahodd i wneud cais am lety.

Rhaid i chi wneud cais cyn 31ain Gorffennaf i gael ystafell.

Aelodaeth o'r gampfa a Champws Byw yn gynwysiedig

Mae aelodaeth o'r gampfa a Champws Byw wedi'i gynnwys ar gyfer pob myfyriwr sy'n byw yn llety'r Brifysgol. Gallwch ddefnyddio'r brif ganolfan chwaraeon ym Mhentref Ffriddoedd, Canolfan Brailsford, neu'r ystafell ffitrwydd ym Mhentref y Santes Fair.

Mae Campws Byw yn rhaglen o ddigwyddiadau sy'n rhedeg trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau ffilm, cwisiau, tripiau a gweithgareddau awyr agored.

Mae'n ddrwg gennym nad yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n byw ar Gampws Wrecsam, ac mae ffioedd neuaddau yn Wrecsam yn cael eu haddasu yn unol â hynny.

 

Pentrefi Llety

Mae gennym ddau bentref llety, Ffriddoedd a'r Santes Fair

Myfyrwyr yn cerdded ger Neuaddau Preswyl Ffriddoedd

Pentref Ffriddoedd

Wedi'i leoli ym Mangor Uchaf, tua 5 munud o gerdded o Brif Adeilad y Brifysgol, mae gan Bentref Ffriddoedd oddeutu 2,000 o ystafelloedd, ac mae gan y mwyafrif ohonynt ystafelloedd ymolchi preifat. Ar y safle mae siop, bar caffi Bar Uno, canolfan chwaraeon Brailsford, golchdai ac ystafelloedd cyffredin.

Neuaddau Preswyl ym Mhentref y Santes Fair

Pentref y Santes Fair

Wedi'i leoli yn agos at ganol y ddinas, mewn safle uchel, mae oddeutu 600 o ystafelloedd ar y safle. Mae yna gymysgedd o fathau o lety, gan gynnwys ystafelloedd gydag ystafelloedd ymolchi preifat, stiwdios, tai tref ac ystafelloedd rhatach. Ar y safle mae siop / caffi, ystafell ffitrwydd, golchdy, ystafell TG ac ystafelloedd cyffredin.

Myfyrwyr yn cymdeithasu tu fewn i un o'r fflatiau ym Mhentref y Santes Fair

Gweld ein neuaddau yn ôl math

Mae gennym amrywiaeth o fathau o lety, yn cynnwys ystafelloedd en-suite gydag ystafelloedd ymolchi preifat, stiwdios, tai tref ac ystafelloedd safonol. 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?