Cronfeydd Caledi
Mae'r Gronfa Caledi ar gael i gynorthwyo myfyrwyr sy'n profi caledi ariannol annisgwyl.
Mae'r Gronfa yn un gyfyngedig ac ni all dalu costau sy'n gysylltiedig â ffioedd dysgu, costau byw parhaus megis rhent, cyfleustodau, dyledion ac ni ellir ei defnyddio i wneud yn iawn am unrhyw ddiffyg mewn cyllid.
Asesir ceisiadau fesul achos.
Hawl
Mae’r gronfa ar gael i fyfyrwyr cofrestredig ym Mhrifysgol Bangor, p’un a fyddoch yn israddedig neu’n ôl-raddedig, o’r DU, yr UE neu’n fyfyriwr Rhyngwladol, a ph'un a fyddoch yn dilyn cyrsiau llawn-amser neu ran-amser.
Pan fônt yn gymwys, rhaid i fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd llawn amser wneud wedi cais am y benthyciad myfyriwr / grant cynhaliaeth llawn y mae ganddynt hawl i'w gael.
Cyn iddynt wneud cais i’r gronfa, bydd disgwyl fod myfyrwyr wedi archwilio’r holl ddulliau sydd ar gael o’u helpu eu hunain, megis cael gwaith rhan-amser ac ystyried ffyrdd o gwtogi ar eu gwariant. Felly, rydym yn argymell eich bod yn cyfrif cyllideb wythnosol neu fisol er mwyn canfod lle gallech leihau eich gwariant a/neu gynyddu eich incwm. Defnyddiwch yr offeryn cyllidebu isod i’ch helpu i gyllidebu, neu lawrlwythwch daflen gyllidebu, gan ddefnyddio’r cyswllt a ganlyn:
Sut i wneud cais, a phryd?
Gall myfyrwyr wneud cais ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, a dylent gysylltu ag un o’r canlynol i gael cyngor a chymorth, yn ogystal â ffurflen gais:
Dylai myfyrwyr o’r DU a’r UE gysylltu â’r Uned Cymorth Ariannol i drafod eu sefyllfa.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol gysylltu â’r Swyddfa Lles Myfyrwyr Rhyngwladol yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol i drafod eu sefyllfa.
Rhaid i’r holl geisiadau fod ar ffurflen ddilys a chael eu cyflwyno’n ôl yn bersonol, lle bynnag y bo modd, ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol wedi’i ffotogopïo, i un o’r swyddfeydd uchod.
Asesir y cais ar sail tystiolaeth o ddiffyg o ran incwm a gwariant myfyriwr. Mae'n hanfodol, felly, eich bod yn rhoi manylion clir a chywir am eich holl ffynonellau incwm a'ch ymrwymiadau ariannol dilys. Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’r ffurflen mor drylwyr â phosibl a rhoi’r holl dystiolaeth ddogfennol y gofynnir amdani, fel y gallwn brosesu eich cais yn llwyddiannus.
Ni dderbynnir eich ffurflen gais heb y dystiolaeth ategol angenrheidiol.
Dyrannu Cyllid
Ein nod yw ymdrin â cheisiadau, eu trafod a rhoid gwybod i'r myfyrwyr am y penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith i dderbyn cais gwreiddiol yn yr Uned Cymorth Ariannol neu y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae dyfarnu arian o'r gronfa yn amodol ar fod fyfyriwr wedi cofrestru ac yn dilyn cwrs yma ym Mhrifysgol Bangor.
Telir grantiau trwy BACS i mewn i gyfrif banc myfyriwr
Caiff myfyrwyr wybod am unrhyw benderfyniad trwy e-bost.
Cyfrinachedd
Dim ond staff yr Uned Cymorth Ariannol a'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol fydd yn gweld y ceisiadau. Mewn rhai achosion efallai y bydd gofyn am wybodaeth ychwanegol gan staff eraill yn y Brifysgol er mwyn llwyddo i wneud y penderfyniad; yn yr achosion hynny, byddwn yn gofyn am eich caniâtad ymlaen llaw.
Deddf Gwarchod Data (2018): Mae Prifysgol Bangor yn rheolydd data fel y'i diffinnir yn neddfwriaeth 2018. Ni chaiff data personol a chategori arbennig eu defnyddio yn yr Uned at unrhyw ddibenion arall ar wahân i ddibenion ystadegol a chadw cofnodion electronig.
Apeliadau
Mae gan bob ymgeisydd yr hawl i apelio os nad ydynt yn gwbl fodlon ynglŷn â chanlyniad eu cais. Fodd bynnag, nid ystyrir apeliadau oni cheir mwy o dystiolaeth o amgylchiadau personol myfyriwr.
Gall myfyrwyr ofyn am adolygiad yn y lle cyntaf, a dylent drefnu apwyntiad gyda’r Ymghynghorwr Myfyrwyr yn yr Uned Cymorth Ariannol neu Phennaeth Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol i drafod unrhyw dystiolaeth ychwanegol. Os bydd hynny'n briodol, bydd y Grŵp Dyrannu yn ystyried cais diwygiedig yn ei gyfarfod nesaf. Caiff myfyrwyr wybod trwy e-bost am benderfyniad y Grŵp Dyrannu.
Dylech gyflwyno unrhyw apêl ddilynol mewn ysgrifen i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr, a fydd yn ei hanfon at Uwch Swyddog annibynnol yn y Brifysgol i’w hystyried. Caiff myfyrwyr wybod am benderfyniad cyn gynted ag y mo modd.
Cymorth a Chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes arnoch angen cymorth, cysylltwch â:
Myfyrwyr o’r DU a’r UE gysylltu â’r Uned Cymorth Ariannol neu drwy ffôn - 01248 38 3566.
Myfyrwyr rhyngwladol gysylltu â’r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol yn y Ganolfan Addysg Ryngwladol