Ein Gwaith gyda Gofalwyr
Mae staff Ehangu Mynediad y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau sy’n cefnogi Gofalwyr o bob oed. Ein diffiniad ni o Ofalwr yw:
Rhywun sy’n gofalu am aelod o’r teulu, partner neu ffrind ag anabledd corfforol neu synhwyraidd, anabledd dysgu, cyflwr meddygol, anawsterau iechyd meddwl neu rywun sy’n gaeth i gyffuriau, alcohol neu hapchwarae/gamblo.
Gwaith yn y gymuned
Mewn partneriaeth â’r canlynol, ceisiwn fynd i’r afael â rhwystrau sy’n cadw unigolion, yn sgil eu cyfrifoldebau gofal, rhag cyflawni’u potensial:
Action for Children | ![]() |
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr | ![]() |
NEWCIS Cefnogi Gofalwyr yn y Gymuned |
![]() |
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru | ![]() |
WCD Young Carers | ![]() |
Cysylltu Gofalwyr ym Mhowys | ![]() |
Ffilm
Rhai blynyddoedd yn ôl, cefnogodd y Brifysgol gynhyrchiad o ffilm fer yn codi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau gofalu. Gwyliwch y ffilm.
Ysgol Breswyl i Gofalwyr Ifainc
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Bangor yn croesawu gofalwyr ifanc i Ddigwyddiad Preswyl, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc 16-25 oed i gael blas ar fywyd prifysgol a'r gefnogaeth a gynigir iddynt yma ym Mangor. Yn ystod y digwyddiad, mae llawer o ysgolion academaidd yn cyflwyno sesiynau blasu pynciol. Caiff y bobl ifanc gyfle i edrych o gwmpas y brifysgol, Pontio, Undeb y Myfyrwyr a manteisio ar y cyfleusterau hamdden yng Nghanolfan Brailsford cyn treulio noson yn llety'r brifysgol.
Ysgoloriaeth y Ganolfan Ehangu Mynediad
Bob blwyddyn, yn ogystal â'r Fwrsariaeth Gofalwr o £1000 o gynigir gan y brifysgol yn ganolog, cynigir ysgoloriaeth ychwanegol o £1,500 i ofalwr sy'n dod i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Caiff yr ysgoloriaeth hon ei dyfarnu yn dilyn proses ymgeisio.
Gwaith o fewn y Brifysgol
Cynnig ysgoloriaeth i fyfyrwyr sy’n Ofalwyr: yn unol â pholisi’r Brifysgol yn cefnogi pobl ifainc yn gadael gofal, penderfynwyd cynnig ysgoloriaeth debyg i fyfyrwyr sy’n dod atom â chyfrifoldebau gofal yn eu cartrefi.
Llwytho i lawer y Pecynnau'r Brifysgol i Ddechreuwyr gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
Cyswllt
Wendy Williams: wendy.williams@bangor.ac.uk
Gwenda Blackmore: g.a.blackmore@bangor.ac.uk
Sefydlu Grŵp Cyfoed
Gyda chydweithrediad Undeb y Myfyrwyr mae’r Ganolfan Ehangu Mynediad yn cydweithio â myfyrwyr cyfredol sydd hefyd yn Ofalwyr er mwyn sefydlu grŵp a fydd yn cefnogi’i gilydd. Gobeithir y bydd ein myfyrwyr presennol yn barod i gynorthwyo yng ngwaith y Ganolfan Ehangu Mynediad drwy rannu profiadau gyda darpar fyfyrwyr sy’n ofalwyr.
Adnoddau
Llawlyfr Gofalwyr
Mae Prifysgol Bangor yn creu llyfryn ar gyfer ein myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yn rhoi manylion y gefnogaeth sydd ar gael ynghyd â rhifau a manylion cyswllt a allai fod o gymorth mewn argyfwng.