Arddangosfa Hedd Wyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2017
Cafwyd cyfarfod llwyddiannus a phoblogaidd ar ddydd Gwener olaf yr Eisteddfod eleni ym mhabell y Brifysgol.
Gyda chymorth y Ganolfan Ehangu Mynediad trefnodd yr adran Archifau a Chasgliadau Arbennig i arddangos dwy lawysgrif wreiddiol o gasgliad papurau Hedd Wyn, sef; drafft o’r awdl fuddugol yn Eisteddfod Penbedw 1917, “Yr Arwr”, a llythyr a ysgrifenwyd gan Hedd Wyn tra’n gwasanaethu yn y fyddin (mis cyn ei farwolaeth ym mrwydr fawr Cefn Pilkem).
Yn cymeryd rhan yn y cyfarfod roedd yr actorion, Huw Garmon a Judith Humphreys, a fu’n portreadu Hedd Wyn a Jini Owen yn y ffilm, yr Athro Gerwyn Williams o’r Adran Gymraeg a Gerald Williams (mab i chwaer Hedd Wyn).
Roedd y llawysgrifau i’w gweld ym mhabell y Brifysgol ar hyd y diwrnod gyda chyfle i’r ymwelwyr holi staff yr Archifau a Chasgliadau Arbennig am yr arddangosfa ac yn fwy cyffredinol am ein casgliadau.
Hefyd, darlledwyd cyfweliad byw ar Radio Cymru gyda’r Archifydd, Elen Simpson yn trafod y llawysgrifau a’u pwysigrwydd o safbwynt hanes a threftadaeth llenyddol Cymru.



