Cystadleuaeth Codio Môn
Yn haf 2017, am y tro cyntaf cynhaliwyd cystadleuaeth Codio i blant ysgolion cynradd Môn, a hynny dan nawdd y Ganolfan Ehangu Mynediad ac Ysgol Addysg y Brifysgol, gyda chefnogaeth Gwennan Richards o Goleg Meirion Dwyfor. Yn ystod y dydd, cafwyd ychydig o hyfforddiant ar Scratch cyn i’r plant fynd ati’n brysur i ddefnyddio’u sgiliau newydd i greu pob math o gemau.
Llongyfarchwyd y criw da ddaeth ynghyd ar waith penigamp ac edrychwn ymlaen at y gystadleuaeth nesaf.



Yn y llun mae Owen Davies o’r Ysgol Addysg gyda rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 Ynys Môn.