Cwrs Ffotograffiaeth ac Arddangosfa Ffotograffiaeth Disgyblion
Daeth disgyblion o’r ddwy ysgol at ei gilydd fel rhan o broject gan Ganolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor.
Roedd y gwaith yn benllanw project a drefnwyd gan Ganolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol, sydd yn cyflwyno addysg uwch i ddisgyblion ysgolion uwchradd lleol.
Wedi dilyn y cwrs ehangu mynediad (?), dewisodd y disgyblion gweithgaredd ffotograffiaeth.
O dan arweiniad ffotograffydd proffesiynol leol, Kristina Banholzer, bu’r disgyblion chweched dosbarth yn dysgu am ffotograffiaeth a mynd ar daith tynnu lluniau i gaffi GISDA i dynnu lluniau bwyd, ac o amgylch Caernarfon i dynnu lluniau adeiladau a phobl, cyn rhannu eu gwybodaeth efo disgyblion Ysgol Pendalar a dal ychydig o ddelweddau ar y cyd.
Meddai Bethan Morris-Jones, Pennaeth Ysgol Pendalar:
"Rydym yma yn Ysgol Pendalar wedi gweld hon fel cyfle grêt i ddatblygu sgiliau'r bobl ifanc mewn ffotograffiaeth, mae nhw wir wedi mwynhau rhyngweithio efo'r disgyblion. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i'r cyhoedd cael gweld safon y gwaith sydd wedi cael ei greu."
Meddai Delyth Murphy, Cyfarwyddwr Canolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor:
"Mae'r Ganolfan Ehangu Mynediad wastad yn ceisio annog pobl ifanc i fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Mae'r brosiect wedi ysbrydoli’r disgyblion o'r ddwy ysgol ac rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn gwerthfawrogi’r canlyniadau."
Cynheliwyd yr arddangosfa yn Neuadd Ysgol Pendalar am 2pm ar 14eg o Orffennaf 2017.