Ehangu Mynediad i fyfyrwyr y Brifysgol
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnwys pum gwasanaeth gwahanol ond integredig: Cefnogi Myfyrwyr, Gwasanaeth Anabledd, Canolfan Sgiliau Astudio, Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd. Rydym yn galluogi myfyrwyr i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysg uwch, er mwyn cyflawni eu potensial academaidd a datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn eu dewis yrfa ar ôl iddynt raddio. Rydym yn darparu cefnogaeth i ddarpar-fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar trwy amrywiaeth o wasanaethau integredig, yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, gwasanaethau arbenigol, cyfleodd i ddatblygu sgiliau a sesiynau hyfforddi.
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion academaidd, gwasanaethau eraill y Brifysgol, cyflogwyr a sefydliadau allanol mewn ffordd gyfannol i gefnogi myfyrwyr i wneud y gorau o'u hamser yn y Brifysgol.
Mae gwasanaethau ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n ofalwyr, myfyrwyr sy'n gadael gofal a myfyrwyr â theuluoedd.
Bwrsariaethau Ôl-radd Ehangu Mynediad
Bwrsariaethau Ôl-radd Ehangu Mynediad yn benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan amser. Mwy o wybodaeth...
Interniaethau Ehangu Mynediad
Rydym yn cynnig Interniaethau Ehangu Mynediad achlysurol o fewn y Brifysgol. Ewch i'r Hub Cyflogadwyedd am fwy o fanylion.