Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau BA (Anrhydedd)
Rhagarweiniad i’r Cwrs
Dyma gwrs sy’n rhoi sylfaen gadarn yn y Gymraeg ac at hynny’n cynnig cyfle i astudio ym maes y theatr a’r cyfryngau. Mae’n cynnig profiadau cyffrous i’r sawl sydd am ddilyn gyrfa nid yn unig ym myd y theatr a’r cyfryngau ond hefyd ym myd addysg. Cewch gyfle i astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal â drama, theatr, teledu, radio a ffilm. Ceir hefyd gyfle i feithrin dawn greadigol a thalent yn y modiwlau ymarferol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae gan Ysgol y Gymraeg, Bangor enw da o safbwynt safon ei haddysgu a’i gofal am ei myfyrwyr.
- Mae gan y rhai sy’n dysgu’r cyrsiau ar y Theatr a’r Cyfryngau brofiad helaeth o weithio yn y meysydd hyn ar lefel broffesiynol. Cynigir rhai o’r modiwlau gan yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
- Mae proffil uchel Ysgol y Gymraeg a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ei safonau yn golygu bod galw mawr am ein myfyrwyr ni.
- Cewch yn y cwrs hwn wybodaeth ddofn am iaith a diwylliant Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am y cyfryngau. Bydd hyn yn eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr.
- Ar ôl graddio mae’n bosibl astudio hyd at lefel MA, MPhil a PhD.
- Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ysgolion: bydd myfyrwyr sy’n cychwyn ar gwrs BA yn yr Ysgolion Ieithoedd a Diwylliannau Modern, Cerddoriaeth, Athroniaeth a Chrefydd neu Gymraeg ym Medi 2016 yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth MA. Bydd yr ysgoloriaethau hyn ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau gradd BA yn un o’r Ysgolion hyn ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill 2:1 neu uwch, ac wedi cael lle ar raglen flwyddyn Meistr trwy Ddysgu sydd wedi’i lleoli yn un o’r Ysgolion uchod. Bydd myfyrwyr sy’n cael gradd ddosbarth 1af yn cael eu heithrio’n awtomataidd rhag talu ffioedd dysgu ar gyfer yr MA a bydd myfyrwyr sy’n cael gradd 2:1 yn derbyn gostyngiad awtomataidd ar eu ffioedd, ac yn talu ffioedd o £1,000 ar gyfer yr MA. Am fwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau hyn, cysylltwch â: cah@bangor.ac.uk.
Ffeithiau Allweddol gan UniStats
Cynnwys y Cwrs
Am fwy ar astudio gradd darllenwch ein tudalennau am Astudio ym Mangor.
Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfrwng cyfuniad o dddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau a gweithdai. Ar ben hynny, byddwch yn gweithio ar draethodau, sgriptiau a chynyrchiadau. Fel rhan o’ch cwrs, disgwylir i chi fynychu cynyrchiadau theatrig yn rheolaidd. Gwahoddir cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol o fyd teledu, ffilm a'r theatr i drafod eu gwaith gyda'r myfyrwyr.
Mae rhai modiwlau’n cael eu hasesu trwy gyfrwng arholiadau a thraethodau ac eraill ar sail gwaith cwrs yn unig.
Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1
Cymraeg
Modiwlau gorfodol:
- Yr Iaith ar Waith
- Llên Gyfoes
- Llên y Cyfnod Modern Cynnar
Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
Modiwl Gorfodol:
- Theatr Fodern Ewrop
- Sgriptio Teledu
- Y Ddelwedd Symudol
- Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau
Blwyddyn 2 a 3
Cymraeg
Modiwlau gorfodol:
- Ymarfer Ysgrifennu
- Traethawd Estynedig
Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
Modiwlau Gorfodol:
- Sgriptio
- Y Sgrin Fach Gymraeg
- O’r Llyfr i’r Llwyfan
- Y Theatr Gymraeg Fodern
Byddwch hefyd yn medru dewis o blith modiwlau eraill Ysgol y Gymraeg.
Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau
Modiwlau dewisol:
- Llwyfannu Theatr
- Rhaglenni Dogfen a Drama
- Theatr yn y Gymdeithas
- Celfyddyd Perfformio
- Ymarfer y Cyfryngau: Ffeithiol
Cliciwch yma i lawr-lwytho manylion y rhaglen.
Modiwlau y flwyddyn yma
Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Cymraeg, Theatr a’r Cyfryngau.
Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Cymrwch olwg ar sut y gallwch chi wella eich cyflogadwyedd wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor yma.
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.
Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
Gofynion Mynediad
Am fanylion cyffredinol, darllenwch ein tudalen ar ofynion mynediad.
Mynediad yn 2018:
- 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth). Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
Mynediad yn 2017 (tariff newydd UCAS ar gyfer cyrsiau yn cychwyn ym Medi 2017):
- 112 pwynt tariff o gymwysterau lefel 3* yn cynnwys gradd B mewn lefel A Cymraeg (neu gyfwerth). Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at y tariff newydd gan UCAS ar www.ucas.com.
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol.
Gofynion Mynediad Cyffredinol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Neu ysgrifennwch at:
Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717
Sut i Ymgeisio
Sut i wneud cais drwy UCAS
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau
Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.
Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.
Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.
Mwy o Wybodaeth
Cysylltwch â ni
Dr Aled Llion Jones
Tiwtor Mynediad
Ysgol y Gymraeg
Ffôn: 01248 382240
e-bost: cymraeg@bangor.ac.uk
www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg
Astudio ym Mangor
Gwobr Aur i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.
Ymysg yr 10 uchaf
Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.
Ystod eang o gyrsiau
Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).
Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU
Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.
Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.
Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018!
Lleoliad heb ei ail
Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae gogledd Cymru wedi ei henwi’r 4ydd lle gorau i ymweld â nhw ar draws y byd yn 2017 yn ôl y Lonely Planet yn sgil ei harddwch naturiol a’r cyfleoedd antur newydd sbon sydd ar gael yn yr ardal.
Buddsoddiad mewn cyfleusterau
Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety newydd i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.
Sicrwydd o lety
Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.
Profiad Myfyrwyr Bangor
Cyrsiau Cysylltiedig
- Astudiaethau Busnes a Chymraeg BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Astudiaethau Plentyndod a Chymraeg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Athroniaeth a Chrefydd a Chymraeg BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymdeithaseg a Chymraeg BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg a Cherddoriaeth BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg a Ffrangeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Cymraeg a Gwyddorau Chwaraeon BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg a Hanes BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg ac Almaeneg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Cymraeg ac Ieithyddiaeth BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg and Sociology BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg gyda Newyddiaduraeth BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg i Ddechreuwyr BA (Anrhydedd) (4 ye blwyddyn)
- Cymraeg Proffesiynol BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg Proffesiynol (i Ddechreuwyr) BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Eidaleg a Chymraeg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Hanes Cymru a Chymraeg BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Iaith Saesneg a Chymraeg BA (Cyd-Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Polisi Cymdeithasol a Chymraeg BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Sbaeneg a Chymraeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Tsieinëeg a Chymraeg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Y Gyfraith gyda’r Gymraeg LLB (Anrhydedd) (3 blwyddyn)