
Modiwl CXC-3123:
Rhyddid Y Nofel
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i weithiau llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos, Robin Llywelyn, Mihangel Morgan ac Owen Martell. Daw'r modiwl i ben gydag arolwg cryno o hynt y nofel Gymraeg yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Mewn gair, ystyrir sut mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
Cynnwys cwrs
Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i weithiau llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos, Robin Llywelyn, Mihangel Morgan ac Owen Martell. Mewn gair, ystyrir sut mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
Meini Prawf
da
Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth dda am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonyn Dangos gallu da i ddadansoddi nofelau Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
ardderchog
Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth sicr am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonyn Dangos gallu sicr i ddadansoddi nofelau Dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
trothwy
Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith. Dangos gwybodaeth am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonynt. Dangos gallu i ddadansoddi nofelau. Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol. Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill. Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Amgyffred y mwyafrif o brif dueddiadau a datblygiadau'r nofel Gymraeg oddi ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
-
Gwybod sut i ymateb yn feirniadol ac mewn dyfnder i'r nofel.
-
Adnabod y mwyafrif o wahanol arddulliau a thechnegau a ddefnyddir gan nofelwyr.
-
Mynegi ateb mewn iaith ac arddull dda.
-
Bwrw trawsolwg eang a dwfn ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol bob amser.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
PRAWF DEALLTWRIAETH | ASESIAD AMGEN | Yng ngoleuni amgylchiadau eithriadol 2020-21, gosodir prawf yn lle arholiad. Rhyddheir cwestiynau'r prawf yn ystod Semester 1 a dylid ateb 2 gwestiwn traethawd, h.y. yn debyg i dan amodau arholiad a heb nodiadau neu lyfryddiaeth. Cyflwynir y darnau asesu hyn ym mis Ionawr 2021 yn ystod y cyfnod a neilltuir yn draddodiadol ar gyfer arholiadau. |
50.00 |
TRAETHAWD | Traethawd | Traethawd ar Rhys Lewis gan Daniel Owen, un o gonglfeini'r traddodiad nofelyddol Cymraeg. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 2 awr darlith x 10 fydd yn sicrhau llwyddiant y deilliannau dysgu. Noder: addasir y dulliau dysgu yn ôl yr hyn a fydd yn bosib ac a ganiateir yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. |
20 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 fydd yn sicrhau llwyddiant y deilliannau dysgu. Noder: addasir y dulliau dysgu yn ôl yr hyn a fydd yn bosib ac a ganiateir yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. |
10 |
Private study | 170 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 4 (BA/CYM4)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)