Gwybodaeth Berthnasol

Ymchwil yn yr Ysgol

Y mae cyfraniad Prifysgol Bangor i dwf ysgolheictod modern ym meysydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi bod yn un aruthrol. Yma ym Mangor y bu Syr John Morris-Jones wrthi’n gweithio ar ei Welsh Grammar (1913), sef sail ein Cymraeg llenyddol modern. Rhwng y 1920au a’r 1960au ym Mangor hefyd y cynhyrchodd Syr Ifor Williams y golygiadau modern cyntaf o’n barddoniaeth a’n llenyddiaeth gynharaf, gan gynnwys y Gododdin a Phedair Cainc y Mabinogi.  

Yr oedd i Fangor hefyd ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu tri o gyfeirlyfrau Cymreig mwyaf  arwyddocaol y cyfnod presennol The Welsh Academy English-Welsh Dictionary – Geiriadur yr Academi (1995), Dictionary of the Place-Names of Wales (2007), a’r cyfrolau Cymraeg a Saesneg Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig / Welsh Academy Encyclopaedia of Wales (2008).

Arbenigedd mewn llenyddiaeth Gymraeg

Y mae gan Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd arbenigeddau ymchwil yn holl brif feysydd llenyddiaeth Gymraeg ac ymhlith aelodau’r staff y mae hefyd rai o lenorion a beirdd amlycaf y Gymru gyfoes megis Dr Angharad Price, Dr Jason Walford Davies, Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Gerwyn Wiliams. Yr ydym hefyd yn cydweithio’n agos ag Ysgolion academaidd eraill yn y Brifysgol, e.e. gyda Hanes a Hanes Cymru ym maes Astudiaethau Celtaidd a chyda Ieithoedd Modern ym meysydd astudiaethau cyfieithu a llenyddiaeth gymharol.

Prif nod ein hymchwil yw gosod llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destunau deallusol newydd. Ym Mangor, yr amcan o hyd yw astudio llenyddiaeth Gymraeg nid fel gweddillion rhyw orffennol ‘Celtaidd’ ond fel amlygiad o lenyddiaeth hyfyw sy’n perthyn i’r byd modern. Er enghraifft, fe welir bod astudiaeth ddiweddar (2013) Dr Angharad Price o T.H. Parry-Williams yn archwilio datblygiad gyrfa gynnar y bardd yng nghyd-destun amgylchfydoedd deallusol Rhydychen, Freiburg a Pharis. Mae gwaith diweddar Yr Athro Jerry Hunter ar y cysylltiadau Cymreig yn hanes y Tsalagi yn rhan o astudiaeth estynedig ehangach o ddiwylliant Cymraeg America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac y mae gwaith Dr Jason Walford Davies ar R.S. Thomas yn tynnu ar wybodaeth eang o lenyddiaethau Cymraeg a Saesneg Cymru. Fe welir hefyd fod plethwaith cymhleth y cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol yng Nghymru’r Oesoedd Canol yn cael eu hastudio yng ngwaith arloesol Dr Aled Llion Jones ar broffwydoliaeth yng Nghymru (2013). 

Y mae’n hen draddodiad ym Mangor fod ymchwil ym maes y Gymraeg yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion cynulleidfaoedd y tu hwnt i furiau’r Brifysgol. Ymhlith y rhai sy’n elwa ar ein hymchwil y mae: cynulleidfaoedd lleyg sy’n darllen ein cyhoeddiadau; cynulleidfaoedd radio a theledu; sefydliadau diwylliannol megis yr Eisteddfod Genedlaethol a Llenyddiaeth Cymru; myfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, addysgwyr a’r rhai sy’n gyfrifol am feysydd llafur mewn ysgolion; rhai sy’n llunio polisïau iaith; gweithwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol, e.e. gweinyddwyr a gweision sifil; meysydd treftadaeth a’r cyfryngau; a chwmnïau cyfieithu a chyhoeddi.

Yng Nghymru yr ymglywir gryfaf â dylanwad ein hymchwil, ond y mae hefyd yn fodd o hyrwyddo dealltwriaeth lawnach o amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ar lefel ryngwladol. Ar hyn o bryd, y mae nofel fawr Angharad Price O! Tyn y Gorchudd (2001) wrthi’n cael ei chyfieithu i chwech o ieithoedd eraill, gan gynnwys Almaeneg, Rwmaneg a Bengaleg.