Lle mae’r Ganolfan ACCESS?
Canolfan Allgymorth Aberystwyth:
Bangor:
Mae y Ganolfan Access wedi ei leoli ar y llawr cyntaf yn Neuadd Rathbone - rhif 70 map lleoliad - mae'r adeiliad yn sefyll ychydig yn ôl o'r ffordd ar Ffordd y Coleg, tu ôl i goed aeddfed. Mae ychydig i fyny'r bryn o'r gyffordd gyda Lôn Meirion.
Sat Nav: LL57 2DF
Sut i gael hyd i Ganolfan Access Bangor yn Neuadd Rathbone:
Mynedfa o Ffordd y Coleg:
- Ewch i mewn i Rathbone drwy'r drysau gwydr awtomatig;
- Ewch drwy’r drws cyntaf ar y dde ar ôl y dderbynfa;
- Ewch i fyny’r grisiau cyntaf ar y dde, dilynwch yr arwyddion 'Cefnogi Myfyrwyr';
- Ewch i fyny dwy res o risiau i'r llawr cyntaf, ac wedyn trwy’r drysau gwydr ar y llawr cyntaf;
- Trowch i'r chwith ac ewch drwy’r drysau gwydr;
- Y dderbynfa yw'r drws cyntaf ar y dde.
Defnyddio'r lifft i'r llawr cyntaf:
-
Ewch i mewn i Rathbone drwy'r drws gwydr awtomatig;
Ewch drwy’r ail ddrws ar y chwith, mae'r lifft yn union ar y chwith;
-
Ewch i fyny yn y lifft i'r llawr cyntaf ar ôl dod allan o'r lifft trowch i'r dde;
- Y dderbynfa yw'r drws olaf ar y chwith cyn y drws gwydr
Parcio
Os byddwch yn teithio o bell, neu angen dod â'ch car, defnyddiwch y maes parcio yn nhu blaen Rathbone, lle mae mannau parcio hygyrch, nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Byddwch angen tocyn parcio dros dro a roddir i chi ar ôl i chi gyrraedd. Os rhowch wybod i ni ymlaen llaw, bydd gennym docyn yn barod i chi.