Pwy fydd yn edrych ar eich hôl?

Rydym ni eisiau i chi setlo i mewn mor gyflym â phosibl a mwynhau eich bywyd myfyriwr i'r eithaf. O’r munud byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch.

Tiwtor Personol

Mae pob myfyriwr hefyd yn cael Tiwtor Personol yn yr ysgol academaidd lle maent yn astudio. Bydd y Tiwtor Personol yn gallu eich helpu ag unrhyw broblem neu gwestiwn ynglŷn â'ch cwrs. 

Gwasanaethau Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yno i'ch helpu gyda phob math o agweddau o'ch bywyd fel myfyriwr. Yno cewch gymorth gyda materion cyllid, cymorth astudio, materion anabledd, iechyd meddwl, cynghori, tai myfyrwyr, darpariaeth ffydd, iechyd a lles a chymorth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Swyddfa Llety

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â llety myfyrwyr, mae ein Swyddfa Neuaddau yno i'ch helpu. Ewch i'n tudalennau ni arLety Myfyrwyr am fwy o wybodaeth am Neuaddau Preswyl Bangor.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Os ydych chi'n ystyried dod o hyd i waith rhan-amser tra yn y Brifysgol, bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn barod i'ch cynghori. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnig cymorth gyda dod o hyd i brofiad gwaith a chyngor ar ddatblygu gyrfa, yn ogystal a helpu i chi wella eich CV drwy Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.

Llun agos o grys-t Arweinwr Cyfoed

Cefnogi ein Myfyrwyr Arweinwyr Cyfoed

O'r foment y byddwch yn cyrraedd, byddwch mewn dwylo diogel yr Arweinwyr Cyfoed. Yr Arweinwyr Cyfoed yw myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn sydd yno i'ch helpu chi gydag unrhywbeth…dangos i chi lle mae eich darlithoedd yn cael eu cynnal, rhoi taith i chi o amgylch y ddinas a dangos i chi lle mae'r diodydd rhataf yn cael eu gwerthu!

I bwy bynnag sydd yn bwriadu astudio trwy'r Gymraeg - ewch amdani, mae digon o help ar gael, arian i helpu gyda'r cwrs a chymorth academaidd.

Erin Jones
Nyrsio Oedolion

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?