Beth i’w ddisgwyl ym Mangor
Mae’r Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yma ym Mangor wrth law i gynnig gwybodaeth, ysbrydoliaeth, adnoddau, cyngor ac arweiniad i’n myfyrwyr a’n graddedigion, i helpu i ddatblygu eu cyflogadwyedd a’u hyder, ac i archwilio, mynd ar drywydd a gwireddu eu dyheadau gyrfaol, beth bynnag y bônt !
Mae gan gymuned Prifysgol Bangor ffocws cryf iawn ar gyflogadwyedd, o’n rhaglenni academaidd i’n clybiau a chymdeithasau, cyfleoedd, digwyddiadau a mentrau. Mae ein tîm yn cefnogi ac yn cydweithredu â staff a myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, cyflogwyr graddedig, entrepreneuriaid, mentoriaid busnes a mudiadau gwirfoddol i enwi ond ychydig!
Gwybodaeth, Adnoddau, Gweithdai a Digwyddiadau
Mae gennym gyfoeth o adnoddau ar ein Hwb Cyflogadwyedd, yn cynnwys gweithdai ar-lein, offer rhyngweithiol, fideos gan fyfyrwyr a chyflogwyr, taflenni a chysylltiadau defnyddiol.
Rydym yn cynnal gweithdai a digwyddiadau ar y campws, ac yn rhoi cefnogaeth i’n gwahanol ffeiriau gyrfaoedd ar y campws trwy gydol y flwyddyn.
Cyngor ac Arweiniad
Mae'r Stiwdio Gyrfaoedd yn darparu arweiniad ynglŷn a materion megis archwilio gyrfaoedd, ymchwil a rheolaeth, a chynnig cefnogaeth gyda llunio CV ac adborth ar geisiadau, paratoi at gyfweliadau a llawer mwy.
Swyddi a Phrofiad Gwaith
Gall myfyrwyr a graddedigion ddefnyddio eu cyfrif CyswlltGyrfa i chwilio am waith rhan amser, interniaethau a chyfleoedd profiad gwaith, swyddi lleol, cenedlaethol a thramor i raddedigion.
Mae ein Cynllun Interniaethau yn gyfle i bob myfyriwr israddedig ac ôlraddedig trwy ddysgu i wneud cais am interniaeth gyda chyflog sy’n cael eu cynnal gan adran / ysgol academaidd yn y Brifysgol – dyma gyfle i ennill profiad gwaith gwerthfawr a magu hyder a meithrin cysylltiadau.
Mae ein staff yn helpu myfyrwyr ddod o hyd i leoliadau rhyngosod a lleoliadau byrrach, os penderfynant gynnwys lleoliad fel rhan o’u rhaglen radd.
Mae ein Tîm Cefnogi Profiad Gwaith yn cynnig cefnogaeth un-i-un i fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau i gyflogaeth i’w helpu i archwilio, darganfod a chwblhau sesiynau blasu a phrofiad gwaith, gan eu helpu i ddatblygu eu profiad a’u hyder.
Rydym yn annog ac yn galluogi ein myfyrwyr a’n graddedigion i ystyried hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth trwy weithdai, digwyddiadau, cystadlaethau a mentrau, a gallwn gynnig cyngor mentora busnes a chychwyn busnes.
Cysylltwch, cadwch mewn cysylltiad!
Gallwch ddilyn yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau a’r hyn rydyn ni’n ei wneud trwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gael arddangosiad ar-lein o’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig ac a ddiogelir gan gyfrinair megis yr Hwb Cyflogadwyedd, TARGETconnect Bangor a Gwobr Cyflogadwyedd Bangor, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych – gallwch gysylltu â ni trwy gyrfaoedd@bangor.ac.uk neu ddilyn a chysylltu â ni ar gryfryngau cymdeithasol:
Facebook: @PBcyflogadwyedd / @BUemployability
Tiktok: @PBcyflogadwyedd / @BUemployability
Instagram: @pbcyflogadwyedd
LinkedIn: Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor / Bangor Employability Service
Wedi'i ddiweddaru Rhagfyr 2025