Gwaith y Gangen
Gwaith Cangen Bangor yw cydlynu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor, a hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn cael ei chynnig i fyfyrwyr y Brifysgol.
Mae'r gwaith yn cynnwys cefnogi staff academaidd a myfyrwyr y Brifysgol yn ogystal ag adrodd yn ôl i'r Coleg ar ddatblygiadau a chynnydd projectau, darlithyddiaethau ac ysgoloriaethau.
Mae’r Gangen hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd y Gangen.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Gangen ar 10 Mai 2023.
Rhestr e-bost y Gangen
Mae'r Gangen yn gweinyddu rhestr e-bost i staff ar gyfer unrhyw faterion sy'n ymwneud â chynnal a datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mangor.
Os hoffech danysgrifio i'r rhestr, anfonwch neges at Emily Boyman, y Swyddog Cangen
Swyddog Cangen Bangor
"Helo bawb! Emily Boyman ydw i, a fi ydi Swyddog Cangen Prifysgol Bangor o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
'Dw i'n gyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor. Graddiais mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol nôl yn 2018, felly mae'n braf cael bod yn ôl yma!
Cefais fy magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ac wedi dysgu'r Gymraeg yn bennaf drwy'r system addysg. Roedd dilyn cwrs addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddewis hollol naturiol i mi. 'Dw i'n gobeithio y bydd y profiad yma o fudd i mi yn fy rôl."