Project Termau Addysg Uwch
Amcan y project hwn yw datblygu cyfres o eiriaduron termau dwyffordd Saesneg- Cymraeg, i gyd-fynd â’r meysydd academaidd a flaenoriaethir yn strategaeth genedlaethol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Arweinir y gwaith safoni termau gan Dr Tegau Andrews mewn cydweithrediad ag arbenigwyr pwnc o'r sector Addysg Uwch a thu hwnt, yn unol â safonau rhyngwladol ISO. Diffinnir y termau er mwyn hybu dealltwriaeth myfyrwyr a staff o dermau technegol.
Mae holl eiriaduron y project i'w gweld yma . Mae’r wefan yn cynnwys termau o’r meysydd isod:
Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Cyfraith
Diwydiannau Creadigol
Seicoleg
Rheoli Coetiroedd,
Addysg a Phlentyndod,
Mathemateg a Ffiseg,
Cemeg,
Daearyddiaeth,
Busnes
Chwaraeon
Swyddog project: Dr Tegau Andrews.