Projectau
Mae’r Coleg yn dyrannu grantiau i’r Prifysgolion ar gyfer gwahanol brojectau sy’n ymwneud â chynnal a hyrwyddo addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae Prifysgol Bangor wedi elwa llawer ar y buddsoddiadau hyn.
Grantiau bach
Mae’r grantiau bach werth hyd at £2,500 ac ar gyfer projectau sy’n para hyd at 12 mis. Dyma enghreifftiau o’r mathau o brojectau sydd wedi cael eu cyllido yn barod gan y gronfa grantiau bach:
- Cyflwyno ffrwyth prosiect ymchwil ar y we
- Cyfres o ddarlithiau gan awdur gwadd
- Ysgol undydd
- Mynychu cynhadledd ryngwladol
- Cyflogi Cynorthwyydd ymchwil i gywain data
Cronfa strategol - Prif Brojectau
Mae’r grantiau strategol ar gyfer projectau sy’n para hyd at dair blynedd. Mae cyfle i gyflwyno ceisiadau i'r gronfa hon unwaith y flwyddyn. Dyma enghreifftiau o’r mathau o brojectau sydd wedi eu cyllido gan y gronfa strategol:
- Datblygu modiwl newydd
- Creu swyddi preswyl i fyfyrwyr
- Datblygu cyfrol
- Creu safle gwe