Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr
Ymdrech yw Cymraeg Clir i annog cyrff cyhoeddus i ysgrifennu dogfennau cyhoeddus mewn iaith syml, naturiol a chlir.
‘Dogfennau cyhoeddus’ yw’r holl wybodaeth y mae disgwyl i rywun ei darllen o ddydd i ddydd mewn gwahanol lythyrau, taflenni, posteri a ffurflenni. Mae llawer gormod o Gymry Cymraeg yn teimlo bod y dogfennau Cymraeg yma’n rhy anodd eu deall a’u defnyddio, ac yn troi at y fersiwn Saesneg.
Dilynwch y dolenni i ddysgu mwy am Gymraeg Clir.