Gwaith y Gangen
Gwaith Cangen Bangor yw cydlynu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor, a hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn cael ei chynnig i fyfyrwyr y Brifysgol.
Mae'r gwaith yn cynnwys cefnogi staff academaidd a myfyrwyr y Brifysgol yn ogystal ag adrodd yn ôl i'r Coleg ar ddatblygiadau a chynnydd projectau, darlithyddiaethau ac ysgoloriaethau.
Mae’r Gangen hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd y Gangen.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Gangen ar 6 Hydref 2021.