Fy ngwlad:
Celt-conference-walkshop

CELT: Canolfan Gwella Addysgu a Dysgu

Cefnogi rhagoriaeth addysgu ac arloesi ar draws Prifysgol Bangor

Gwella Eich Addysgu

Mae cael cymheiriaid yn arsylwi ar eich arferion addysgu neu gymorth dysgu yn eich galluogi i ddatblygu trwy hunanfyfyrio, rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a nodi meysydd sydd angen cymorth. 

Crëwyd y cynllun i alluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar arferion Addysgu a Dysgu gan gyfeirio at Gôd Ansawdd Addysg Uwch ASA a Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer Addysgu a Chefnogi Dysgu mewn Addysg Uwch (UKPSF).

Mae Cynllun Cefnogi Cydweithwyr Bangor yn agored i bob aelod o staff sy’n addysgu a/neu’n cefnogi dysgu. Disgwylir y bydd yr holl staff academaidd sydd â rôl addysgu yn cymryd rhan yn y cynllun unwaith bob blwyddyn academaidd fel rhan o ddeuawd neu driawd arsylwi cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys darlithwyr rhan amser ac ymarferwyr proffesiynol sy’n cyfrannu’n rheolaidd at addysgu. Bydd myfyrwyr ôl-raddedig sy’n addysgu yn cael eu harsylwi fel rhan o’u gofyniad i ymgymryd â hyfforddiant Ysgol-benodol neu’r Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCertTHE). Ni fydd yn ofynnol i siaradwyr allanol gymryd rhan yn y cynllun llawn, ond os oes rhai sydd yn cyfrannu’n gylchol fesul blwyddyn academaidd, dylai arweinwyr modiwl o leiaf fynychu sesiwn a rhoi adborth llafar.

I gymryd rhan yn y broses Arsylwi Cymheiriaid a lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol, ewch i dudalen FyMangor.

Mae Advance HE yn cynnwys arbenigwyr Addysg Uwch sy'n cydweithio i godi safonau yn y sector a gwneud addysgu a dysgu yn fwy cynhwysol i bawb. 
Mae gan Advance HE dri nod strategol: 

  • cynyddu hyder ac ymddiriedaeth mewn Addysg Uwch
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig yn y sector i ddiwallu anghenion esblygol
  • cefnogi aelodau trwy ei waith ar addysgu a dysgu, llywodraethu, datblygu arweinyddiaeth a chynhwysiant

Gall Advance HE eich helpu drwy gefnogi eich ymarfer addysgu a chynnig arweiniad ar lywodraethu, datblygu arweinyddiaeth ac amrywiaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyrsiau datblygu a hyfforddiant sydd ar y gweill ar wefan Advance HE, yn ogystal ag adnoddau addysgiadol a manylion gwobrau. 

Bellach mae modd cofrestru i ddod i Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Bangor eleni, a gynhelir ddydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Medi.
 
Bydd y digwyddiad yn cynnwys prif anerchiad gan Yaz El Haskin o Brifysgol Southampton – a fydd yn trafod her benodol yr ydym ni a llawer o sefydliadau ac undebau myfyrwyr eraill yn ei hwynebu, sef ennyn diddordeb myfyrwyr.
 

Rhaglen 

Cofrestru*

*er mwyn i ni allu trefnu’r ddarpariaeth arlwyo. Bydd modd cofrestru hefyd ar y diwrnod.
 
Eleni, am y tro cyntaf, bydd dwy ardal arddangos - arddangosfa ddigidol yn y gofod CoLab ar Lefel 3 ac arddangosfa’r Gwasanaethau Proffesiynol ar Lefel 2 Pontio.  Bydd yr arddangosfa ddigidol yn cynnwys cydweithwyr o Blackboard a Panopto, tra bydd arddangosfa’r Gwasanaethau Proffesiynol yn rhoi cyfle i gwrdd â chydweithwyr o bob cwr o'r brifysgol, dysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael a gofyn cwestiynau mewn awyrgylch anffurfiol.
 
Bydd modd cofrestru ar y diwrnod hefyd ond ni fydd y cinio a ddarperir ar y diwrnod cyntaf (15 Medi) ar gael i'r rhai sy'n cofrestru ar y diwrnod. Ni ddarperir cinio ar yr ail ddiwrnod (16 Medi).