Mehefin 2019

SuLlMaMeIGSa
1
2345678
9101112131415
16171819202122
23242526272829
30

Cynhadledd Gofalwyr: Grymuso Gofalwyr mewn Addysg a Gwaith

Lleoliad:
Neaudd Reichel, Safle Ffriddoedd, Bangor, LL57 2TW
Amser:
Dydd Gwener 14 Mehefin 2019, 09:00–15:30

I nodi Wythnos Gofalwyr 2019, mae'r Ganolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Phartneriaeth Ymestyn yn Ehangach yn cydweithio i gyflwyno cynhadledd undydd yn canolbwyntio ar gefnogi gofalwyr mewn addysg a gwaith. 

Bydd y digwyddiad yn croesawu rhai sy’n llunio penderfyniadau, pobl broffesiynol byd addysg, cyflogwyr a gofalwyr i ystyried dulliau effeithiol o ganfod a chefnogi gofalwyr. Ceir anerchiadau arweiniol gan academyddion, gwleidyddion ac uwch gynrychiolwyr o sefydliadau ag arbenigedd o weithio gyda gofalwyr. 

Dilynir yr anerchiadau gan weithdai ymarferol yn ystyried dulliau o gefnogi gofalwyr mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys Addysg Bellach, Addysg Uwch, Ysgolion Uwchradd ac o fewn Byd Gwaith. 

Bydd nifer o siaradwyr blaenllaw yn cynnwys:

  • Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru 
  • Jassa Scott, Estyn 
  • Feylyn Lewis, Prifysgol Sussex 
  • Sian Gwenllian AC, Gweinidog Cysgodol dros Addysg
  • Jo Galazka, Unite 
  • Diane Seddon & Patricia Algar, Prifysgol Bangor 
  • Simon Hatch, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru