Dysgu Tsieinëeg fel Iaith Ryngwladol yn y Cyfnod 5G
Y 18fed Cynhadledd Ryngwladol ar Addysgu a Dysgu Tsieinëeg mewn Addysg Uwch
Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol y British Chinese Language Teaching Society (BCLTS)
Gohirir y gynhadledd tan haf 2021 oherwydd pryderon ynghylch yr achosion parhaus o Covid -19.
Trefnwyd gan y British Chinese Language Teaching Society (BCLTS)
Cynhelir a chyd-drefnir gan Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor
Mae’r British Chinese Language Teaching Society (BCLTS www.bclts.org.ac.uk ) yn sefydliad di-elw a sefydlwyd ym 1997 fel y gymdeithas academaidd i athrawon ac ymchwilwyr ym maes Tsieinëeg ym mhrifysgolion y DU. Mae’n gysylltiedig â’r British Association for Chinese Studies (BACS). Prif swyddogaeth y gymdeithas yw gweithio i wella ansawdd dysgu Tsieinëeg fel ail iaith / iaith dramor ar lefel Addysg Uwch a hyrwyddo ymchwil i addysg ryngwladol ym maes Tsieinëeg. Yn ogystal, mae’n cynnig cyfleoedd rhwydweithio i athrawon Tsieinëeg ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae gan BCLTS oddeutu 100 o aelodau unigol o bron i 50 o brifysgolion a cholegau yn y DU, ynghyd â sawl sefydliad sy’n aelodau (gan gynnwys sefydliadau Confucius mewn gwahanol brifysgolion yn y DU).
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae BCLTS wedi bod yn chwarae rhan fwy a mwy gweithredol wrth arwain dysgu ac ymchwil ym maes Tsieinëeg yn y DU. Ar ôl llwyddiant mawr ein cynhadledd flynyddol y llynedd, a gynhaliwyd ar y cyd â Sefydliad Confucius Prifysgol Lancaster, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod 18fed Cynhadledd Ryngwladol BCLTS, gyda’r thema o Dysgu Tsieinëeg fel Iaith Ryngwladol yn y Cyfnod 5G, ar agor bellach i gyflwyno crynodebau papurau a chynigion ar gyfer gweithdai. Bydd Cynhadledd Flynyddol Ryngwladol BCLTS yn cael ei chynnal a’i chyd-drefnu gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor.
Mae gan Brifysgol Bangor, a sefydlwyd ym 1884, draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae ymhlith y 40 uchaf yn y DU ym maes ymchwil, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn elwa nid yn unig o gyfoeth rhagoriaeth ac arbenigedd academaidd ym Mangor ond hefyd drwy ei phartner rhyngwladol, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith (CUPL) yn Beijing. Mae Sefydliad Confucius yn falch iawn o gynnal a chyd-drefnu cynhadledd mor bwysig ym Mhrifysgol Bangor.