Yn y diweddar
5ed - 7fed Gorffennaf 2021
18fed Gynhadledd Ryngwladol ar Addysgu a Dysgu Tsieineaidd mewn Addysg Uwch.
18fed Gynhadledd Ryngwladol ar Addysgu a Dysgu Tsieineaidd mewn Addysg Uwch.
Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol 2021 Cymdeithas Addysgu Ieithoedd Tsieineaidd Prydain (BCLTS)
5ed - 7fed Gorffennaf 2021 (Rhithwir)
Trefnwyd gan Gymdeithas Addysgu Ieithoedd Tsieineaidd Prydain (BCLTS)
Wedi'i gynnal a'i Gyd-drefnu gan Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor, y DU
Cyhoeddiad Trafodion y Gynhadledd
6-7 Mehefin 2019
Dulliau o Ddysgu Ieithoedd Tramor Modern
Dulliau o Ddysgu Ieithoedd Tramor Modern
Rydym yn hynod falch o'ch gwahodd chi i Gynhadledd 2019 o'r enw 'Dulliau o Ddysgu Ieithoedd Tramor Modern' a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor yng ngogledd Cymru rhwng 6-7 Mehefin 2019.
Dyma'r ail gynhadledd a drefnwyd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a'r nod yw dwyn ynghyd ysgolheigion ac ymchwilwyr o wahanol wledydd ac amrywiol feysydd academaidd a diwylliannau i rannu profiadau, a thrafod materion sy'n ymwneud â gwahanol ddulliau a methodolegau a ddefnyddir i ddysgu ieithoedd tramor. Nod y gynhadledd hon yw annog trafodaeth, dadlau a chyfnewid syniadau rhwng cynrychiolwyr ar bob lefel.
Bydd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau, prif ddarlithoedd, sgyrsiau, cyflwyniadau poster a gweithdai yn ymwneud â'r pynciau a ganlyn.
Pynciau'r Gynhadledd:
- Ffyrdd o wella'r niferoedd sy'n cymryd ieithoedd tramor modern mewn ysgolion a phrifysgolion a gwella ansawdd y ddarpariaeth iddynt
- Ysgogi dysgu ieithoedd mewn ysgolion, prifysgolion a'r gymuned ehangach mewn ffordd gynaliadwy
- Tueddiadau technolegol newydd mewn dysgu ieithoedd tramor modern
- Effaith Brexit ar ddarpariaeth ieithoedd tramor modern yn y Deyrnas Unedig
- Datblygu sgiliau iaith unigolion mewn dosbarthiadau ieithoedd tramor
- Defnyddio celf a chreadigrwydd mewn dosbarthiadau iaith dramor
Prif siaradwyr a gadarnhawyd
- Prof. Joel Bellassen- Cyn Athro Tsieineaidd yn Institut National des Langues et Civilizations Orientales a'r Arolygydd Cyffredinol cyntaf ym maes dysgu'r iaith Tsieinëeg yn y Weinyddiaeth Addysg, Ffrainc
- Dr SONG Lianyi- Adran Ieithoedd a Diwylliannau Dwyrain Asia
SOAS, y DU - Yr Athro LIU Yan- Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a'r Gyfraith Tsieina, Tsieina
- Yr Athro WANG Fang- Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a'r Gyfraith Tsieina, Tsieina
- Ms FANG Jing – Sefydliad Astudiaethau Tsieineaidd, Prifysgol Rhydychen, Y Deyrnas Unedig
- Dr Wang Shasha - Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth, Prifysgol Bangor, y DU
- Dr. Hongfen Zhou- Canolfan Iaith Fodern, King's College, Llundain
Rhaglen
Gellir dod o hyd i'r rhaglen gynhadledd yma
9–10 Mehefin 2018
Y Gynhadledd 1af ar Gyfathrebu Rhyngddiwylliannol, Cyfieithu, a Dulliau o Ddysgu Ieithoedd Tramor
Y Gynhadledd 1af ar Gyfathrebu Rhyngddiwylliannol, Cyfieithu, a Dulliau o Ddysgu Ieithoedd Tramor
Mae'n bleser o'r mwyaf eich croesawu chi oll i Gynhadledd 2018 ar 'Gyfathrebu Rhyngddiwylliannol, Cyfieithu, a Dulliau o Ddysgu Ieithoedd Tramor' yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, yng nghanol hyfrydwch gogledd Cymru.
Dyma'r gyntaf o gyfres newydd o gynadleddau o dan adain Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor a'r nod yw dwyn ynghyd ysgolheigion ac ymchwilwyr o wahanol wledydd ac amrywiol feysydd academaidd a diwylliannau i rannu profiadau, a thrafod materion sy'n ymwneud â chyfathrebu rhyngddiwylliannol, cyfieithu a'r methodolegau gwahanol a ddefnyddir i ddysgu ieithoedd tramor.
Nod y gynhadledd hon yw annog trafodaeth, dadlau a chyfnewid syniadau ymhlith cynrychiolwyr ar bob lefel, yn arbenigwyr mewn meysydd cysylltiedig â'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn y pynciau hyn. Rydym yn edrych ymlaen at drafod y canfyddiadau diweddaraf, yr heriau a'r posibiliadau cyffrous sydd ar gyfer dysgu a chyfieithu ieithoedd tramor, yn ogystal â'r materion sy'n ymwneud â phwnc allweddol ac amserol Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol.
Bydd y Gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o gyflwyniadau, darlithoedd cyweirnod, anerchiadau a chyflwyniadau poster ar nifer o themâu a sesiynau poster. Bydd rhaglen gymdeithasol a theithiau a rydd gyfle i gael cip ar y golygfeydd godidog o'r mynyddoedd a'r arfordir a threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Bangor a gogledd Cymru.
Byddwn yn ymdrin â'r testunau canlynol:
- Tueddiadau newydd a dysgu ieithoedd tramor
- Datblygu sgiliau iaith unigol mewn dosbarthiadau ieithoedd tramor
- Methodoleg ymchwil ar gyfer dysgu a chyfieithu ieithoedd tramor
- Rhyngweithio myfyrwyr - athrawon mewn dosbarthiadau ieithoedd tramor
- Problemau a heriau wrth ddysgu cyfieithu
- Arferion cyfieithu ac ieithoedd tramor
- Damcaniaethau sy'n gysylltiedig â maes cyfathrebu rhyngddiwylliannol
- Cymhwyso arferion rhyngddiwylliannol mewn gwahanol ddisgyblaethau a gweithgareddau
- Heriau newydd ar gyfer ymchwil i gyfathrebu rhyngddiwylliannol
Prif siaradwyr a gadarnhawyd:
Dr Lianyi Song - Adran Ieithoedd a Diwylliannau Dwyrain Asia SOAS, Y Deyrnas Unedig
Yr Athro Zhang Qing- Ysgol Ieithoedd tramor, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith China, China
Yr Athro Cui Yuzhen - Ysgol y Dyniaethau, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith China, China
Dr Ying Yan - Ysgol y Dyniaethau, Prifysgol Leicester, Y Deyrnas Unedig
Ms Jing Fang - Sefydliad Astudiaethau Tsieineaidd, Prifysgol Rhydychen, Y Deyrnas Unedig
Rhaglen
Gellir dod o hyd i'r rhaglen gynhadledd yma