
DynaMost - Adnoddau Hanes Tsieineaidd
Mae gyfres hon o ddarlithoedd a fideos byrion wedi cael ei hysbrydoli gan wareiddiad hynafol a chyfareddol Tsieina ac mae'n cynnig cip ar hanes Tsieina a gofnodwyd ers 2000CC. Bwriad y gyfres yw helpu'r sawl sydd â diddordeb yn Tsieina i ddeall hynt llinachau ymerodrol y genedl dros gyfnod o 4000 o flynyddoedd. Mae llinell amser wedi ei chynllunio’n arbennig i gyd-fynd â phrosiect DynaMost er mwyn galluogi pobl chwilfrydig o bob oed i ddysgu am drefn y llinachau ac am y pethau arloesol a ddigwyddodd yn Tsieina.
Mae fideos DynaMost ar gael i'w gwylio yma ac ar YouTube a YouKu yn Saesneg, yn Saesneg gydag Isdeitlau Mandarin ac yn Gymraeg. Cliciwch ar y mân-luniau isod i chwarae'r fideos.
DynaMost 1 - Llinachau Xia, Shang a Zhou (2000BC - 256BC)
Cliciwch yma ar gyfer Saesneg gydag is-deitlau Mandarin.
DynaMost 2 - Llinachau Qin, Han, Sui a Tang (221BC-907AD)
Mae fersiwn Cymraeg o'r fideo ar gael yma cyn bo hir. Cliciwch yma i wylio'r fersiwn Saesneg.