
Addysg Bellach ac Uwch
Addysg Uwch
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gallu cynnig modiwlau dewisol mewn iaith a diwylliant Tsieineaidd (Mandarin) i fyfyrwyr yn gyfnewid am gredydau academaidd, a bwriedir i seminarau am ddiwylliant Tsieineaidd fod ar gael yn fuan yn rheolaidd.
Yn 2013 fe wnaeth y brifysgol hefyd lansio gradd LLB newydd: Y Gyfraith gydag Astudiaethau Tsieineaidd Cyfoes, gyda’r nod o hyfforddi myfyrwyr yn egwyddorion sylfaenol y gyfraith a’r sgiliau allweddol sydd eu hangen yn y Gymru gyfoes, y DU, Ewrop a’r gymuned ryngwladol ehangach. Bwriedir i’r radd LLB hefyd gynorthwyo myfyrwyr i gael dealltwriaeth sylfaenol o faterion allweddol yn ymwneud â datblygiad cyfoes Tsiena, ac mae’n adlewyrchu’r berthynas agos rhwng y Sefydliad Confucius ac Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor.
Yn ogystal, gall 20 o fyfyrwyr 16–30 oed wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy’n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).
Addysg Bellach
Rydym yn cynnig dysgu Tsieinëeg (Mandarin) mewn ysgolion a cholegau hyd at safon Lefel A, a gellir addasu cyrsiau hefyd i gyflawni gofynion Cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig (WBQ).
Yn ogystal, gall 20 o fyfyrwyr 16–30 oed wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy’n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.