

Newyddion
- SEFYDLIAD CONFUCIUS YN CYNNAL YSGOL HAF AR-LEIN ARALL AR Y SAESNEG A’I DIWYLLIANT !
1 Awst 2022 - Sefydliad confucius yn cynnal ei hail ysgol haf Mandarin ar-lein!
25 Gorffennaf 2022 - Sefydliad Confucius yn cynnal Ail Ysgol Haf Saesneg Gyfreithiol ym Mhrifysgol Bangor!
17 Gorffennaf 2022 - Myfyrwyr Tsieineaidd yn ymuno ag ysgol haf ar-lein ar feddwl beirniadol creadigol!
17 Gorffennaf 2022 - Cystadleuaeth Poster Dathlu Pen-blwydd Sefydliad Confucius yn 10 oed ym Mhrifysgol Bangor!
14 Gorffennaf 2022 - Darllenwch yr holl newyddion
Digwyddiadau
- TAI CHI
Dydd Llun 5 Medi 2022 – Dydd Llun 26 Medi 2022 - BA DUAN JIN: QIGONG ARFER
Dydd Mercher 7 Medi 2022 – Dydd Mercher 28 Medi 2022 - Climate Change Impact on International Trade and Health Law
Dydd Gwener 23 Medi 2022 – Dydd Sadwrn 24 Medi 2022 - Gwelwch yr holl ddigwyddiadau
Diwylliant – Dysgu – Ymchwil
Croeso i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. Mae hwn yn gynllun rhyngwladol ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor, Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith Tsieina (CUPL) yn Beijing. Mae gan Sefydliad Confucius strwythur cefnogaeth a llywodraethu newydd, sy'n cynnwys y Sefydliad Addysg Ryngwladol Tsieineaidd (CIEF) newydd, sefydliad elusennol anllywodraethol ydyw, sy'n cynnwys cynghrair o brifysgolion Tsieina gan gynnwys Prifysgol Beijing, Prifysgol Fudan, Prifysgol Iaith a Diwylliant Beijing, a sefydliadau a chwmnïau cymdeithasol eraill.
Cefnogir Sefydliad Confucius hefyd gan y Ganolfan Addysg Iaith a Chydweithrediad (CLEC) sy'n datblygu'r safonau Cenedlaethol Hyfedredd Iaith Tsieina ledled y byd ac yn cynnig llwyfan ac adnoddau ar gyfer partneriaethau addysg ac ymchwil.
Mae Sefydliad Confucius, Prifysgol Bangor yn sefydliad canolog aml-ddisgyblaethol o’r Brifysgol a’i nod yw rhoi cyfle i bobl gogledd Cymru gael blas ar ddiwylliant ac iaith Tsieina a dysgu mwy amdanynt.
Gyda rhaglen amrywiol a chyfoethog o ddigwyddiadau diwylliannol, darpariaeth iaith ac ymchwil academaidd, mae’r Sefydliad yn gyfrwng hynod werthfawr ar gyfer cyfnewid diwylliannol, addysgol a deallusol rhwng Gogledd Cymru a Tsieina. O Ynys Môn yn y gorllewin i Wrecsam yn y dwyrain ein nod yw ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ar draws y rhanbarth, ac rydym yn gobeithio y byddwch chi’n rhan o’n siwrnai.
Ewch i’r wefan hon yn rheolaidd os gwelwch yn dda i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os hoffech i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod, yn cynnwys cyrsiau iaith Tsieinëeg (Mandarin), ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ar Facebook.