Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
Rydym yn cynnig dysgu Tsieinëeg (Mandarin) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnal cyrsiau wedi’u hachredu, er ein bod yn gobeithio cyflwyno QCFs galwedigaethol yn 2016. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ar ein cyrsiau i ysgolion weithio tuag at sefyll yr arholiad iaith HSK Mandarin a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac rydym yn ganolfan brofi gydnabyddedig ar gyfer y cymhwyster hwn.
Yn ogystal gall ysgolion fanteisio ar ein Carwsél Diwylliannol Tsieineaidd, sef detholiad hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o weithdai rhyngweithiol yn cynnwys gweithgareddau fel caligraffeg, cerddoriaeth, torri papur, gwneud barcutiaid a dawns draddodiadol i enwi ond ychydig.
Yn ogystal, gall 20 o fyfyrwyr wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy'n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).
CYSTADLEUAETH POSTER
Rydym yn gwahodd disgyblion blynyddoedd 3 i 6 i gymryd rhan mewn cystadleuaeth poster/collage ar y thema 'Penblwydd Hapus i Sefydliad Confucius yn 10 oed!'
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.