Cystadleuaeth Sillafu Tsieineaidd
Rydym yn falch iawn o gyflwyno Cystadleuaeth Sillafu Tsieineaidd flynyddol newydd.
Trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru a Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. Mae wedi ei gynllunio i gefnogi myfyrwyr blwyddyn 6 a 7 sy'n astudio'r iaith Fandarin. Mae'r gystadleuaeth yn fodd i ddisgyblion wella eu sillafu a'u geirfa, mae'n eu hannog i ynganu'n gywir ac yn bwysicaf oll mae'n meithrin hyder.
Amcan y gystadleuaeth yw i fyfyrwyr gyfieithu ac ysgrifennu pum gair yn gywir mewn Mandarin. Bydd y myfyrwyr sy'n cyfieithu ac yn ysgrifennu'r nifer fwyaf o eiriau'n gywir yn unol â'r rheolau'n (mewn 5munud) ennill y gystadleuaeth.
Caniateir i fyfyrwyr o gefndir Tsieineaidd gystadlu mewn categori gwahanol.
Caiff y Rownd Derfynol ei chynnal ar 2 Gorffennaf 2020 ac fe'i cydlynir gan Lwybrau at Ieithoedd Cymru.
Cofrestrwch eich ysgol ar gyfer y Gystadleuaeth Sillafu Tsieineaidd YMA
Dylid lansio'r gystadleuaeth yn eich ysgol ar ôl 15 Chwefror 2020 a dylid treulio amser yng ngwersi cyntaf y flwyddyn yn dysgu ac ymarfer ynganu ac ysgrifennu'r 50 gair a ddewiswyd ar gyfer y gystadleuaeth.
Rheolir y gystadleuaeth trwy'r gwefannau canlynol:
- Gwefan y Gystadleuaeth Sillafu Tsieineaidd:
/confucius-institute/spelling-bee.php.en
Gan gynnwys mynediad at Ganllawiau DEFNYDDIWR YR ATHRO/ATHRAWES a'r RHESTRAU GEIRIAU
- Gwefan Llwybrau at Ieithoedd Cymru: http://routesintolanguagescymru.co.uk/
Gan gynnwys cysylltiadau â'r ffurflen gofrestru gychwynnol.