Bwrsariaethau Ôl-radd Ehangu Mynediad
Anelwyd y rhain yn benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr ôl-radd llawn a rhan amser.
Mae pum Bwrsariaeth Ehangu Mynediad Ôl-radd gwerth £3,000 yr un ar gael at fynediad yn 2021. Cyfyngwyd un o’r rhain ar gyfer astudio trwy’r Gymraeg ac mae un fwrsariaeth ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr sy’n byw’r tu allan i ardal Cymunedau yn Gyntaf ond yn dangos tystiolaeth o galedi ariannol. Y dyddiad cau i ddychwelyd y ffurflen gais yw canol dydd ar 31 Gorffennaf, 2021.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ehangu mynediad i Addysg Uwch ac mae’n derbyn myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd. Mae’r bwrsariaethau wedi eu hanelu’n benodol at ehangu mynediad i gyrsiau Meistr Ôl-radd llawn a rhan amser ac maent yn agored i fyfyrwyr sy’n cyflawni meini prawf penodol.
I fod yn gymwys i ymgeisio am y bwrsariaethau mae’n rhaid eich bod:
- Yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Bangor / wedi graddio o Fangor, ac
- Wedi cael / disgwyl cael o leiaf 2.2 neu’n uwch yn eich gradd gyntaf, ac
- Wedi ymgeisio / yn ystyried ymgeisio am gwrs Meistr Ôl-radd llawn neu ran amser (ac eithrio MBAs a TAR) ym Mhrifysgol Bangor i ddechrau ym Medi 2020, ac
- Un ai ddim wedi derbyn, neu ddim am dderbyn, unrhyw fwrsariaeth/ ysgoloriaeth arall ar gyfer y cwrs Meistr, a
- Lle y bo’n briodol, yn ateb y meini prawf o ran cod post i dderbyn y bwrsariaethau hyn.
- Yn astudio ar gyfer Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg
- Yn dangos tystiolaeth o galedi ariannol*
Y meini prawf cod post – gwiriwch nawr i weld a ydych yn gymwys i wneud cais am y bwrsariaethau hyn
Mae’r meini prawf cod post wedi’u seilio ar gyfeiriad cartref parhaol myfyriwr pan mae’n dod i’r Brifysgol – felly rhowch god post eich cyfeiriad cartref parhaol pan wnaethoch gais i Fangor am eich gradd gyntaf.
Os yw cod post eich cyfeiriad cartref parhaol yn dangos eich bod yn byw/wedi byw mewn cymdogaeth lle mai nifer isel sy’n mynd i AU* (yn cynnwys ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru), yna gellwch symud ymlaen gyda’ch cais am Fwrsariaethau Ehangu Mynediad Ôl-radd Hyfforddedig.
*Sylwer: Caiff codau post eu categoreiddio yn ôl ardaloedd cod post MALIC.
Nod Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw canfod yr ardaloedd bach o Gymru sydd fwyaf difreintiedig.