Module PCC-1002:
Cyflwyniad i Ymchwil (20 credyd)
Module Facts
Run by School of Human and Behavioural Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Awel Vaughan-Evans
Overall aims and purpose
Oes yna berthynas rhwng ymddygiad treisgar a statws cymdeithasol?
Ydi canu mewn côr wir yn dylanwadu ar ein lles ni?
Ydi pobl yn fwy tebygol o gredu gwybodaeth sydd wedi ei rannu ar Facebook na gwybodaeth sydd ar y newyddion?
Mae’r tri yma’n enghreifftiau o gwestiynau ymchwil, ac mae’n bosib eu hateb gan ddefnyddio dulliau ymchwil a phrofion ystadegol. Pwrpas y modiwl yma yw cyflwyno’r dulliau ymchwil yma i chi fel eich bod yn deall sut i ddylunio ymchwil dibynadwy eich hunain. Tuag at ddiwedd y modiwl, byddwn yn trafod mathau o brofion ystadegol er mwyn darganfod os yw canlyniadau arbrofion gwahanol yn arwyddocaol.
Felly, prif nodau’r modiwl yma yw:
1) Cyflwyno dulliau ymchwil mewn ffordd ddealladwy a datblygu eich dealltwriaeth o elfennau sylfaenol ymchwil
2) Datblygu eich dealltwriaeth o ystadegau
3) Datblygu eich gallu i ddadansoddi data gan ddefnyddio SPSS
4) Datblygu eich gallu i drafod dulliau ymchwil ac ystadegau yn hyderus yn Gymraeg a Saesneg
Course content
Mi fydd y modiwl yn cyflwyno dulliau ymchwil gwahanol i fyfyrwyr, ac yn trafod y prif bethau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil (e.e. moeseg, dibynadwyedd a dilysrwydd). Yn ogystal, mi fydd y modiwl yn cyflwyno ystadegau disgrifiadol a chasgliadol i fyfyrwyr, ac yn trafod y gwahaniaeth rhwng dulliau ansoddol a meintiol.
Bob wythnos, mi fydd myfyrwyr yn mynychu darlith (2 awr o hyd) a gweithdy (1 awr o hyd). Yn y ddarlith, byddwch yn dysgu ffeithiau, theorïau, a rhesymeg dulliau ymchwil. Mi fydd y gweithdai wythnosol yn rhoi cyfle i chi drafod y wybodaeth yn fwy manwl, ac i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi. Bydd rhai o'r gweithgareddau yn cynnwys ystyried materion moesegol, dyfeisio astudiaethau ymchwil, casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio offer electronig, llaw gyfrifiadau, a dysgu sut i gyfathrebu canlyniadau'r ymchwil mewn adroddiadau ysgrifenedig.
Dylai pob myfyriwr gwblhau 200 awr o waith ar gyfer y modiwl hwn ar draws y semester (gan gynnwys dosbarthiadau rheolaidd, ymchwil annibynnol, a chwblhau aseiniadau).
Assessment Criteria
good
B- i B+
Adolygiad da o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n dda, gydag ychydig iawn o wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn dda.
Dealltwriaeth dda o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn weddol glir.
Hyfedr iawn wrth ddefnyddio SPSS.
excellent
A- i A+
Adolygiad gwych o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wych, heb unrhyw wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn wych.
Dealltwriaeth gadarn o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn glir.
Hyfedredd gadarn wrth ddefnyddio SPSS.
C- to C+
C- i C+
Adolygiad boddhaol o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu eithaf clir. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n foddhaol, ond gydag ambell i wall ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn foddhaol.
Dealltwriaeth foddhaol o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dengys ychydig o allu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol.
Dengys ychydig o hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
threshold
D- i D+
Adolygiad gwael o’r llenyddiaeth, gyda llawer o wallau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wael, gyda thipyn o wallau ffeithiol. Ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn.
Dealltwriaeth wael o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir mewn meysydd gwahanol. Dealltwriaeth wael o’r cynlluniau arbrofol gwahanol.
Ni ddengys unrhyw hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
Learning outcomes
-
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ystadegau a dulliau ymchwil gwahanol, a deall sut y cânt eu defnyddio o fewn meysydd gwahanol.
-
Cynnal adolygiad o lenyddiaeth perthnasol ac ysgrifennu cynnig ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA.
-
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o dechnegau methodolegol fel mesuriadau ac arsylwadau.
-
Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm drwy gyfrannu at astudiaethau ymchwil fel cyfranogwr.
-
Gallu defnyddio'r pecyn ystadegol SPSS yn hyderus: gallu mewnbynnu data yn gywir, rhedeg y dadansoddiad ystadegol priodol, a dehongli'r allbwn.
-
Dangos dealltwriaeth gadarn o'r ystyriaethau moesegol sydd ynghlwm ag ymchwil.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
COURSEWORK | Cynnig ymchwil | Pwrpas yr aseiniad yma yw eich cael i feddwl am sut i gynnal ymchwil. Mi fydd y cynnig wedi ei rannu i’r ‘Rhagarweiniad’ (Introduction) a’r Dull (Methods). Yn y rhagarweiniad, dylech roi trosolwg o’r maes ymchwil, a dangos pam fod cynnal yr ymchwil yn bwysig. Yn y dull, dylech sôn am bethau mwy ymarferol (e.e. cynllun yr arbrawf; y cyfranogwyr) er mwyn dangos sut byddwch yn cynnal yr ymchwil. Mae hwn yn gyfle gwych i chi feddwl fel ymchwilwyr, ac mi fydd y profiad yn rhoi’r cyfle i chi ddeall pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddylunio ymchwil. Cewch ysgrifennu’r aseiniad yn Gymraeg neu’n Saesneg. |
50.00 |
COMPREHENSION TEST | Gwaith cartref | Yn ystod y tymor, byddwch yn cwblhau pum gwaith cartref ar Blackboard. Mi fydd y rhain yn cynnwys cwestiynau aml-ddewis (multiple choice questions) a chwestiynau agored, ac yn profi eich dealltwriaeth o gynnwys y modiwl. Cewch gwblhau’r profion unwaith yn unig, a mi fydd eich gradd terfynol yn gymedr o’r pum gradd. |
20.00 |
CLASS PARTICIPATION | SONA 1 | Yn ystod y tymor, dylech gymryd rhan mewn arbrofion ‘ar lein’ drwy’r system SONA. Mae arbrofion gwahanol yn cynnig nifer gwahanol o gredydau (e.e., hanner awr = 1 credyd; 2 awr = 4 credyd), a dylech gwblhau 18 credyd erbyn diwedd y tymor. Mae hyn yn gyfatebol i tua awr yr wythnos. |
2.50 |
CLASS PARTICIPATION | SONA 2 | Yn ystod y tymor, dylech gymryd rhan mewn arbrofion ‘ar lein’ drwy’r system SONA. Mae arbrofion gwahanol yn cynnig nifer gwahanol o gredydau (e.e., hanner awr = 1 credyd; 2 awr = 4 credyd), a dylech gwblhau 18 credyd erbyn diwedd y tymor. Mae hyn yn gyfatebol i tua awr yr wythnos. |
2.50 |
COURSEWORK | Ystyriaethau Moesegol | Mae dallt ystyriaethau moesegol yn bwysig iawn, yn enwedig wrth gynnal ymchwil seicolegol, neu ymchwil gyda phlant. Ar gyfer yr aseiniad yma, dylech ysgrifennu 500 gair am ystyriaethau moesegol gwahanol. Mi fydd trefnydd y modiwl yn cyflwyno ‘senario ymchwil’ i chi, a dylech adnabod, disgrifio, a thrafod tri ystyriaeth moesegol ar gyfer y senario. |
25.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Tutorial | Mi fydd trefnydd y modiwl yn cynnal awr galw heibio bob wythnos yn ystod y tymor. |
11 |
Workshop | Bydd gweithdai wythnosol yn cael eu cynnal i gyfnerthu eich dealltwriaeth o'r hyn a drafodwyd yn y ddarlith. . |
22 |
Lecture | Bydd darlith wythnosol (1 awr o hyd) yn cyflwyno gwybodaeth i chi am ddulliau ymchwil ac ystadegau. |
11 |
Private study | Mewn modiwl 20 credyd, disgwylir i chi weithio am 200 awr. Disgwylir i chi wario 158 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
156 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Numeracy - Proficiency in using numbers at appropriate levels of accuracy
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
Subject specific skills
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Carry out empirical studies by operationalizing research questions, generating hypotheses, collecting data using a variety of methods, analysing data using quantitative and/or qualitative methods, and present and evaluate research findings (under appropriate supervision).
- Comprehend and use psychological data effectively, demonstrating a systematic knowledge of the application and limitations of various research paradigms and techniques.
- Use a range of statistical methods with confidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
- Use a variety of psychological tools, including specialist software, laboratory equipment and psychometric instruments.
Resources
Resource implications for students
The cost of the core text is £26.99. The web code WEBXSTU98 will give anyone purchasing books through this website a 20% discount: https://global.oup.com/academic/?cc=gb&lang=en
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-1002.htmlReading list
Starting Out in Methods and Statistics for Psychology: A Hands-on Guide to Doing Research. Victoria Bourne. ISBN: 9780198753339
Courses including this module
Compulsory in courses:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 1 (BA/API)
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 1 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 1 (BSC/PHSIE)
- C88P: BSc Psychology with Clinical & Health Psy with Placement Yr year 1 (BSC/PHSP)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 1 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 1 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BSC/PS1)
- C80F: BSc Psychology year 1 (BSC/PSF)
- C80P: BSc Psychology with Placement Year year 1 (BSC/PSP)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 1 (BSC/PSYFP)
- C84B: BSc Psychology with Forensic Psych (4 yr with Incorp Foundn) year 2 (BSC/PSYFP1)
- C81P: BSc Psychology with Forensic Psychology with Placement Year year 1 (BSC/PSYFPP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 1 (BSC/PSYN)
- C83B: BSc Psychology with Neuropsychology (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PSYN1)
- C809: BSc Psychology with Neuropsy (with International Experience) year 1 (BSC/PSYNIE)
- C84P: BSc Psychology with Neuropsychology with Placement Year year 1 (BSC/PSYNP)
- C681: BSc Sport & Exercise Psychology w International Experience year 1 (BSC/SEPIE)
- C680: BSc Sport and Exercise Psychology year 1 (BSC/SEXP)