Datgloi potensial gyrfaol gyda Prosper
Mae Prosper yn ddull arloesol o datblygiad gyrfa ôl-ddoethurol sy’n ceisio datgloi potensial ôl-ddoethurwyr ac ymchwilwyr i ffynnu ar draws nifer o lwybrau gyrfaol – o fewn y byd academaidd a thu hwnt iddo.
Gall Porth Prosper eich helpu i benderfynu beth rydych ei eisiau o’ch gyrfa, archwilio cyfleoedd y tu hwnt i’r byd academaidd, a datblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt.
Yn ystod y sesiwn rithwir hon, bydd Stefania yn rhoi cyflwyniad byr i’r Porth.
Byddwch yn:
- Dysgu pa nodweddion ac adnoddau sydd ar gael ym Mhorth Prosper.
- Cael awgrymiadau ymarferol ar sut i wneud y gorau o’r adnoddau i gefnogi eich datblygiad gyrfaol.
- Cael cyfle i ofyn cwestiynau.
Mae Dr Stefania Silvestri yn Ddatblygwr Ymchwilwyr yn yr Academi ym Mhrifysgol Lerpwl, ac mae’n gyfrifol am gyflwyno carfan Prosper ym Mhrifysgol Lerpwl — rhaglen datblygu gyrfa wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer ôl-ddoethurwyr. Mae’n rhan o dîm ehangach sy’n gweithio ar ehangu Prosper ar draws y sector, gyda’r nod o greu model cynaliadwy ar gyfer rhannu arferion ym maes datblygu gyrfaoedd ôl-ddoethurol.
Yn ei rôl, mae Stefania yn cyfuno ei phrofiad fel ôl-ddoethurwraig ryngwladol yn y Dyniaethau â’i hangerdd dros ieithoedd a diwylliannau, ynghyd â’i brwdfrydedd dros gefnogi eraill i ddatblygu eu potensial gyrfaol.