Digwyddiad rhagarweiniol ar gyfer myfyrwyr ymchwil newydd (ar-lein)
Mae croeso cynnes i bob Ymchwilydd Ôl-raddedig newydd i fynychu’r digwyddiad sefydlu.
Bydd hwn yn gyfle perffaith i ymchwilwyr newydd gwrdd â’i gilydd.
Bydd y rhaglen yn cynnwys gwybodaeth gan yr Academi Doethurol, Gwasanaethau Myfyrwyr, a’r Undeb Myfyrwyr. Bydd gennych gyfle i gwrdd â’r bobl y tu ôl i’r e-byst.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni!
[Os ydych yn bwriadu mynychu’r digwyddiad sefydlu, cofrestrwch ar-lein neu cysylltwch â pgr@bangor.ac.uk].