Sesiwn Wybodaeth Taith ( Ar-lein)
Sylwch y bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol Cymru. Mae cynllun Symudedd Ymchwil Taith yn cefnogi symudedd allanol a mewnol i ymchwilwyr ôl-raddedig, ymchwilwyr gyrfa gynnar, a staff technegol neu gymorth ymchwil i gyrchfannau ledled y byd. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd hyblyg tymor byr a thymor hir, gyda chyfnodau symudedd yn amrywio o 2 ddiwrnod i 5 wythnos.
Mae’r cynllun bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a bydd yn cau am 4pm ar 16 Mehefin 2026. Anogir yn arbennig geisiadau ar gyfer gweithgareddau sydd i ddechrau yn ystod y misoedd nesaf. Disgwylir galwadau pellach ar gyfer Symudedd Ymchwil Taith ym mis Hydref 2026 ac Ionawr 2027, yn amodol ar gyllid.