“Fe wnaeth fy lleoliad nyrsio yn Pokhara fy helpu i fod yn well Nyrs ac roedd yn gymorth i’m paratoi at weithio trwy bandemig COVID-19”
Teithiodd Chloe i Pokhara yn 2019. Mae hi wedi graddio ers hynny ac wedi dechrau gweithio fel nyrs gymwysedig Adran Achosion Brys.
“Roeddwn i eisiau bod yn nyrs erioed. Mae'n debyg bod hynny’n rhannol oherwydd bod fy chwaer wedi treulio cyfnodau yn yr ysbyty pan oedd hi'n fach, ac roeddwn i nôl ac ymlaen i ysbytai gyda hi. Rwy'n cofio gwerthfawrogi'r bobl hynny a oedd yn gofalu amdani a meddwl yr hoffwn i wneud rhywbeth tebyg.
Dewisais astudio ym Mhrifysgol Bangor am fy mod eisiau aros yn agos at gartref ac am fod ein hysbytai lleol yn rhai mor dda. Cefais lawer o brofiad gwaith mewn ysbytai lleol cyn symud ymlaen at astudio nyrsio. Roeddwn i’n mwynhau deinameg yr ysbytai ac fe wnes i glosio at y bobl roeddwn i'n cyd-weithio â nhw, a phenderfynais fy mod am aros yn y maes hwnnw. Roeddwn i hefyd wedi clywed bod Prifysgol Bangor yn rhagorol ar gyfer nyrsio a meddwl “Amdani!”
Roedd yn dipyn o fraw dechrau’r cwrs am fod y cyfan yn sydyn yn real iawn. Ond roedd yn wych unwaith i mi gynefino. Roedd yn dipyn o gorwynt, ond roedd yna gefnogaeth sylweddol ac roedd fy nhiwtoriaid yn wych.
Roeddwn i bob amser wedi bod â’m mryd ar fynd dramor, hyd yn oed cyn i mi ddechrau diddori mewn nyrsio. Felly pan ddaeth y cyfle i ddilyn lleoliad tramor fel rhan o’m cwrs, roeddwn i’n teimlo ei fod yn gweddu’n berffaith. Pan oeddwn yn fy ail flwyddyn gwnes i lawer o ymchwil i wahanol ddarparwyr ac roedd yn amlwg mai Work the World oedd yn cynnig y gwasanaeth gorau; cefais hyder o ddarllen eu straeon gan gyn-fyfyrwyr a daeth yr holl beth yn fyw i mi.
Roedd Bangor yn rhagorol ac yn agored iawn i'r syniad fy mod yn mynd ar leoliad tramor. Nid oeddent yn gwybod llawer am oblygiadau hynny i ddechrau, ond aethant allan o'u ffordd i ymchwilio gyda mi a’m helpu â'r holl broses.
Doeddwn i erioed wedi teithio o'r blaen felly roeddwn i'n nerfus, ond roedd yn gyffrous hefyd. A dim ond pan wnes i lanio yn Nepal wnes i sylweddoli “Mae hyn wir yn digwydd!” Roedd tîm Work the World yno yn disgwyl amdanaf yn y maes awyr ac rwy'n cofio sut oedd pethau bychain fel hynny o arwyddocâd rhyfeddol i mi. Roedd y 24 awr cyntaf yno’n afreal!
Cefais fraw yn yr ysbyty i ddechrau. Roeddwn eisiau cael profiad yn yr Adran Achosion Brys, a fi oedd yr unig fyfyriwr ar y ward honno ond roedd y staff lleol yn wych. Gwnaethant roi’r cyfle i mi gymryd rhan mewn cynifer o achosion â phosib ac roeddent yn hynod o gyfeillgar.
Gwelais frathiadau neidr, llosgiadau difrifol, achos o hypothermia, cranioplasti, craniotomi... Fe wnes i weld cymaint o fathau gwahanol o lawfeddygaeth hefyd - pethau nad oeddwn i erioed wedi eu gweld o'r blaen a phethau nad oeddwn i wedi breuddwydio y buaswn i byth yn eu gweld.
Gwelais nifer o gymhlethdodau beichiogrwydd a arweiniodd at doriadau Cesaraidd brys. A gwelais un achos difrifol o hydroceffalws, pan fo pen y baban yn chwyddo cyn-genedigaeth; mae'n beth hynod o brin mewn unrhyw wlad. Felly roedd y ffaith imi gael gweld yr achos hwnnw a'r dilyniant iddo yn anhygoel.
Mae llawer o'r triniaethau sy’n cael eu defnyddio yn Nepal yn wahanol i driniaethau’r GIG. Mae rhywun yn mynd yno gan ddisgwyl i bethau fod yn wahanol, ond mae ei weld drosoch eich hun yn rhyfeddol. Mi oeddwn i’n meddwl imi fy hun: "Ydy hyn yn digwydd go iawn, ydw i wir yn ei weld?"
Does dim llawer o breifatrwydd i gleifion yno mewn gwirionedd. Nid nad yw hynny'n bodoli o gwbl, ond nid yw cleifion fel pe baent yn ei ddisgwyl. Yn achos archwiliadau, byddai cleifion yn tynnu eu dillad uchaf o flaen pawb a dyna oedd y norm. Gwahaniaeth mawr arall oedd bod yn rhaid i gleifion dalu am bopeth eu hunain. Os na allent dalu, nid oeddent yn cael y driniaeth. Gwnaeth hynny i mi sylweddoli cymaint yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol yn y GIG.
I fod yn onest, mi wnes i ei chael hi ychydig yn anodd ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig. Ar ôl gweld sut beth yw bywyd i bobl mewn gwlad sy’n brin iawn o adnoddau, roeddwn yn ei chael hi'n anodd brathu fy nhafod wrth glywed pobl yn cwyno am ddiffygion. Rydw i wedi bod yn berson ymarferol sy’n bwrw ymlaen â phethau erioed, ond gwnaeth fy mhrofiad yn Nepal fi hyd yn oed yn fwy felly. Dysgais gymaint o wybodaeth yn ystod fy nghyfnod yno hefyd. Cefais brofiad eang o wahanol gyflyrau, a dysgu am dechnegau nad oeddwn i erioed wedi’u gweld ar waith o’r blaen.
Tyfodd fy hyder yn sylweddol o ganlyniad i’m cyfnod yn Nepal. Roeddwn i’n berson reit swil, ond fe wnaeth y profiad fy newid i.
Wrth gwrs fe gafodd pandemig Covid-19 effaith fawr ar fy mlwyddyn olaf. Roedd yn brofiad dysgu enfawr. Dechreuais mewn Uned Therapi Dwys ac roeddwn yno am wyth mis nes imi gael fy ngosod ar leoliad ar ward covid. O safbwynt clinigol, roeddwn wedi cael profiad gyda nifer o broblemau resbiradol pan oeddwn yn Nepal, gan fod llygredd yn ddrwg yn y dinasoedd ac mae pobl yno'n dioddef mwy o broblemau o’r fath. Roedd yn gymorth i’m paratoi at weithio trwy'r pandemig.
Byddwn yn argymell lleoliad tramor yn gryf i fyfyrwyr nyrsio; mae'r profiad yn eich symud tu hwnt i orwelion eich byd cyfarwydd a bydd yn newid cwrs eich bywyd. Pe bawn i'n gallu ei wneud eto wythnos nesaf, mi fyddwn i!”
It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?