Fy ngwlad:
Plato Statue with blue sky in the background

Graddau Israddedig Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Tyrd i astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor ac archwilio’r syniadau a'r materion byd go iawn sy'n llunio bywyd modern. Byddi’n datblygu meddwl beirniadol a sgiliau ymarferol wrth archwilio pynciau megis deallusrwydd artiffisial, cyfiawnder, hawliau dynol a'r amgylchedd. Drwy asesiadau creadigol ac ymarferol, byddi’n rhoi syniadau athronyddol ar waith mewn ffyrdd sy'n dy baratoi at ystod eang o yrfaoedd.

Ar y dudalen hon:

Darganfyddwch ein cyrsiau Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Darganfyddwch y cwrs Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd i chi

Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd - BA (Anrh)
Archwiliwch gwestiynau mawr bywyd trwy athroniaeth, moeseg a chrefydd.
Cod UCAS
V5V6
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Cymraeg ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd - BA (Anrh)
Mwynhewch gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol Cymraeg ac ystyriwch rai o gwestiynau dwysaf bywyd.
Cod UCAS
Q5VV
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Ieithoedd Modern ac Athroniaeth, Crefydd a Moeseg - BA (Anrh)
Archwiliwch gwestiynau dwys ar draws sawl iaith. Cyfunwch ieithoedd ag athroniaeth, moeseg a chrefydd.
Cod UCAS
R806
Cymhwyster
BA (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
SCROLL
SCROLL

Archwilia Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd drwy gwrs byr

Ystyried astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol?

Mae maes pwnc Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yng Nghymru, yn cynnig cyfres o gyrsiau byr ar-lein am ddim i fyfyrwyr chweched dosbarth ac unrhyw un sydd á diddordeb mwn astudi'r pwnc yn y brifysgol. 

Bydd pob cwrs yn archwilio un thema sy’n ysgogi’r meddwl drwy dair lens wahanol: athroniaeth, moeseg a chrefydd.

Image of Llio Wyn Owen

Beth Sy'n Gwneud Bangor yn Arbennig?

Cymuned Fechan, Cefnogaeth Fawr

"Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd yn un fechan, a hynny’n beth braf - mae gan y darlithwyr ddigon o amser i bawb, ac maent wastad yn help mawr, heb sôn am yr hwyl rydym ni gyd yn ei gael bob dydd. Rydw i’n edrych ymlaen at fynd i bob darlith."

Sut beth yw bywyd myfyrwyr ym Mangor?

"Mae Bangor yn lle gwych i astudio. Gan mai dinas fechan yw Bangor, mae myfyrwyr yn adnabod ei gilydd – drwy eu cwrs neu’r neuaddau, drwy un o’r cymdeithasau neu drwy nosweithiau allan."

Astudiodd Llio Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Athroniaeth a Chrefydd llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Athroniaeth a Chrefydd ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Athroniaeth a Chrefydd ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Athroniaeth a Chrefydd

Mae arbenigedd y staff Athroniaeth a Chrefydd yn gorwedd yn fras ym meysydd athroniaeth y Gorllewin a chrefyddau'r Gorllewin a'r Dwyrain, ac mae'n cynnwys athroniaeth crefydd, moeseg ac astudiaethau seicdreiddiol. Mae'r staff yn arbenigwyr sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn eu priod faes, gan ddod â gwybodaeth a brwdfrydedd i'w haddysgu.

Mae gan yr adran gymuned weithgar o fyfyrwyr ymchwil ac mae'n cynnig goruchwyliaeth ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd arbenigol, gan gynnwys:

  • Athroniaeth Crefydd
  • Meta-foeseg a moeseg normadol
  • Meta-athroniaeth
  • Problem Drygioni
  • Estheteg
  • Astudiaethau Islamaidd
  • Ffwndamentaliaeth
  • Astudiaethau seicdreiddiol
  • Astudiaethau Jungaidd
  • Cymdeithaseg Crefydd
  • Iechyd meddwl a pherthynas hynny â dirfodaeth a chrefydd.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.