Pam Astudio Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth?
Bydd ein cyrsiau'n rhoi dealltwriaeth academaidd i chi o'r gorffennol, a thrwy hynny, cewch ddealltwriaeth well o'r presennol.
Gellir defnyddio'r gorffennol; ei lygru; ei ddefnyddio i greu mythau, chwedlau ac i greu hunaniaethau. Byddwch yn archwilio'r dystiolaeth ei hun yn ogystal â dehongliadau ohoni i ddatblygu sgiliau dirnadaeth a chrebwyll.
Mae ein staff yn arbenigo yn archaeoleg Prydain ac Iwerddon, a rhywfaint o archaeoleg cyfandir Ewrop. Rydym yn cynnig modiwlau sy'n cynnwys Archaeoleg Yr Oes Gynhanesyddol, Yr Oes Rufeinig, y Canoloesoedd Cynnar a'r Canoloesoedd yn ogystal ag Archaeoleg Tirwedd a Threftadaeth.
Mae cyfleoedd am leoliad gwaith mewn amgueddfa neu mewn safle treftadol a wnaiff roi profiad o'r diwydiant i chi.
Mae safleoedd hanesyddol a Threftadaeth y Byd allweddol ar garreg y drws, ac mae yma fynediad i adnoddau cyfoethog o ran safleoedd treftadol, henebion ac amgueddfeydd lleol. Ymhlith yr adnoddau hynny mae tomenni claddu cynhanesyddol a phlastai urddasol, sy'n rhan annatod o'r cwrs ac rydym yn eu defnyddio'n rhan o'r dysgu trwy deithiau maes, gweithdai ymarferol a chloddio. Mae cyfle hefyd i ennill profiad archaeolegol ymarferol.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw dysgu mwy a mwy am fy hoff bwnc sef hanes. Mae fy seminarau yn hwyl oherwydd fy mod i'n gallu siarad am fy marn ar bynciau rydw i'n eu caru a gallu dysgu gan eraill..
Ein Hymchwil o fewn Hanes, Archaeoleg a Threftadaeth
Mae ymchwil cyffrous ac arwyddocaol staff academaidd yr Ysgol yn chwarae rhan bwysig i sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ein hymchwil yn rhychwantu amrywiaeth dda o bynciau ac arbenigeddau ym meysydd Hanes, treftadaeth ac Archeoleg gan gynnwys:
- Hanes Cymru
- Archaeoleg Gymreig a Cheltaidd
- Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar
- Hanes yr Ugeinfed Ganrif a'r Unfed Ganrif ar Hugain.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.