Pam Astudio Gwleidyddiaeth?
Mae gwleidyddiaeth yn chwarae rhan ym mhob gwlad yn y byd, boed yn ffederal, democrataidd, comiwnyddol neu weriniaeth. Atebir llawer o gwestiynau pwysig trwy wleidyddiaeth, a rhoddir sylw i lawer o sialensiau byd-eang fel hawliau dynol, tlodi, cydraddoldeb a lles. Mae gradd mewn gwleidyddiaeth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyflogaeth mewn sawl maes posib, yn ogystal ag astudio ymhellach.
Mae galw mawr am y sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygir trwy radd mewn gwleidyddiaeth. Mae sgiliau'n cynnwys deall sut mae'r system wleidyddol yn gweithredu, cyfathrebu a theori wleidyddol i enwi ond ychydig. Gall graddedigion gwleidyddiaeth ddewis o blith nifer sylweddol o yrfaoedd a byddant yn cael y ddealltwriaeth sy'n ofynnol i weithio mewn bron unrhyw ddiwydiant.
Mae galw mawr yng Nghymru am raddedigion sy'n gallu gweithio'n ddwyieithog. Mae gallu trafod y pwnc yn Gymraeg yn hyderus yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae llawer o'n cyrsiau'n caniatáu ichi ddewis dewis modiwlau Cymraeg ochr yn ochr â gradd cyfrwng Saesneg. Rydym yn cynnig nifer o fodiwlau lle mae 100% o'r addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â modiwlau lle gallwch ddewis seminarau Cymraeg hyd yn oed os yw'r modiwl rydych chi'n ei astudio yn Saesneg yn bennaf.
Nid yw byd gwleidyddiaeth yn aros yn ei unfan. Ym Mangor fe welwch fod ein cyrsiau'n cael eu diweddaru i gyd-fynd â'r datblygiadau diweddaraf yn y maes cyffrous hwn.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwleidyddiaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwleidyddiaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwleidyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Gwleidyddiaeth
Mae'r ymchwil gyffrous a phwysig a wneir gan ein staff academaidd yn chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau statws Prifysgol Bangor fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd. Mae ein hymchwil yn cynnwys ystod eang o bynciau ac arbenigeddau ym maes gwleidyddiaeth, gan gynnwys themâu megis: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles; Cymunedau, Diwylliannau, Iaith a Hunaniaethau; Trosedd, Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithas; Llywodraethu, Hanes Gwleidyddol a llawer mwy.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.