Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio'r Gyfraith?
Bydd ein myfyrwyr y Gyfraith yn datblygu dealltwriaeth fanwl o'r gyfraith a sut mae'n gweithio. Mae hyn yn cynnwys dysgu mwy am gymdeithas o safbwynt cyfreithiol ac archwilio sut y gall y gyfraith ddarparu atebion yn y byd go iawn i faterion cyfoes.
Mae graddedigion y gyfraith yn ddeniadol dros ben i gyflogwyr. Mae gradd yn y Gyfraith yn darparu llwyfan rhagorol i'r rhai sydd eisiau dilyn gyrfa yn y gyfraith. Mae hefyd yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol eraill.
Mae astudio'r Gyfraith yn ymwneud â sgiliau, yn ogystal â gwybodaeth. Mae ein ffug-lys ar y campws yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau mewn gwaith llys, a theimlo'n gyfforddus yn y llys. Mae myfyrwyr y gyfraith yn datblygu sgiliau cyfathrebu uwch, galluoedd datrys problemau a gallu brwd i feddwl yn annibynnol. Mae'r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy ac mae galw mawr amdanynt.
Datblygu hunanhyder: Mae astudio'r Gyfraith yn brofiad grymusol. Byddwch yn aml yn gweithio mewn grwpiau ac yn cymryd rhan weithredol mewn dadleuon a thrafodaethau. Mae'r rhain yn amgylcheddau gwych ar gyfer meithrin hunan-barch a hyder cadarnhaol.
Ein Hymchwil o fewn Y Gyfraith
Mae ein darlithwyr yn ymchwil-gynhyrchiol. Mae sawl aelod staff wedi gweithio'n flaenorol fel gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith mewn swyddi fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon. Mae hyn yn golygu bod eich holl ddarlithwyr yn meddu ar wybodaeth arloesol yn eu meysydd pwnc. Pam fod hyn yn bwysig? Mae'n ein galluogi i fywiogi dysgu a rhoi'r syniadau diweddaraf i chi yn y dosbarth.
Ynghyd â'r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd amrywiol mewn meysydd fel Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith Plant a Theuluoedd a Chyfraith Eiddo Deallusol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.