Cyngor ar sut i ysgrifennu'r Datganiad Personol

Y Datganiad Personol yw eich cyfle i werthu eich hunain, eich diddordebau, talentau a llwyddiannau. Os na chewch chi wahoddiad am gyfweliad, bydd y tiwtoriaid personol (y bobl sy’n penderfynu pwy sy’n cael lle ar y cwrs) yn dibynnu ar eich datganiad i wneud eu penderfyniad.  

Mae pob datganiad personol yn cael ei ddarllen! 

Rydych yn cystadlu yn erbyn llawer o ymgeiswyr eraill felly mae angen i chi werthu eich hun. Mae'n bwysig bod yn ofalus wrth ystyried yr hyn rydych am ei ddweud a sut i'w ddweud.

I ysgrifennu datganiad llwyddiannus mae angen i chi fod yn sicr am yr hyn rydych yn ei gynnwys, a pham. Edrychwch ar y pwnc a manylion y cwrs i gael darlun cliriach o'r hyn y mae'r cyrsiau'n cynnig, a chofiwch y gallwch ffonio'r tiwtor derbyn os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

Mae tiwtoriaid yn hoffi gweld unigolion cyfrifol gydag amrywiaeth o ddiddordebau sy'n gallu ymdopi ag astudiaeth ar lefel prifysgol. Maent yn edrych am gymhelliant a photensial ac yn disgwyl i'r datganiad fod yn berthnasol i'r cwrs. 

Bydd tiwtoriaid yn darllen cannoedd o ddatganiadau ac mae llawer ohonynt yn ddiflas, felly gwnewch un chi'n ddiddorol! 

Pan yn ysgrifennu eich Datganiad Personol UCAS, dylech esbonio pam eich bod eisiau astudio'r pwnc yna rhowch resymau penodol am eich diddordeb yn y cwrs. Dangoswch dystiolaeth o waith ymchwil a gwnewch yn glir eich bod yn paratoi ar gyfer astudio'r cwrs - yn enwedig os yw'n gwrs galwedigaethol neu yn bwnc nad ydych wedi ei astudio o'r blaen. Beth yw eich cynlluniau gyrfa pan fyddwch wedi gorffen y cwrs? 

Dylech gynnwys gwybodaeth am unrhyw swydd berthnasol, lleoliad gwaith neu brofiad gwirfoddol - yn enwedig os yw wedi helpu i ddatblygu sgiliau a rhoi profiad na fyddech yn ei gael drwy'r ysgol neu goleg. Soniwch os ydych wedi mynychu unrhyw ysgolion haf neu ddarlithoedd sy'n gysylltiedig. 

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer gwahanol bynciau ar yr un ffurflen, bydd angen i chi esbonio'ch penderfyniadau yn glir neu gallai’r sefydliadau deimlo nad ydych yn gallu gwneud penderfyniad am eich dyfodol. 

Nid yw cymwysterau academaidd yn unig yn ddigon ar gyfer Tiwtoriaid Mynediad. Maent wrth eu boddau gyda myfyrwyr sydd yn cyflawni pethau tu allan i’r dosbarth h.y. maent eisiau gwybod beth yw eich diddordebau. 

 Gallwch gynnwys unrhyw ddiddordebau sydd gennych ac eglurwch, os medrwch, sut y maent yn eich gwneud yn fyfyriwr gwell. Soniwch hefyd am unrhyw grwpiau allgyrsiol yr ydych yn perthyn iddyn nhw.  

Os yn bosib, cofiwch gynnig unrhyw beth sy’n dangos bod gennych ddiddordeb deallusol am y byd. Nodwch hefyd unrhyw gyfrifoldebau, prawf o hunan anogaeth ac unrhyw rwystrau yr ydych wedi eu trechu a defnyddiwch y rhain i ddangos eich cymeriad a’ch cryfder. Os ydych yn ystyried cymryd blwyddyn allan, esboniwch pam. 

Yr uchafswm yw 47 llinell – tua 500-550 o eiriau, ffont maint 12. Uchafswm yw 4000 nod ac mae hyn yn bylchau yn cyfrif.  

 

Y peth cyntaf mae’r tiwtoriaid yn chwilio amdano yw’r rheswm pam eich bod eisiau astudio’r cwrs yr ydych wedi ei ddewis ac felly dyma ddechrau addas i’ch datganiad.  

OND – peidiwch â chychwyn y datganiad drwy ddweud “Rwyf wedi bod eisiau astudio’r cwrs hwn erioed…” 

Mae’n bwysig eich bod yn dal sylw'r Tiwtor Mynediad o’r cychwyn cyntaf. Os oes gennych rhywbeth unigryw i’w gynnig, dyma lle y dylech chi nodi hynny. 

Canllawiau

Byddwch yn bersonol a phositif heb fod yn ddiflas.

 

Llun agos o law myfyriwr yn ysgrifennu nodiadau mewn llyfr nodiadau
  • Peidiwch â chychwyn bob brawddeg efo “Rwyf” 
  • Ysgrifennwch yr hyn sy’n dod yn naturiol i chi 
  • Peidiwch ag ysgrifennu yn rhy gyfarwydd nac yn rhy ffurfiol 
  • Byddwch yn onest - peidiwch â  dweud celwydd 
  • Gorffennwch y datganiad ar nodyn positif 
  • Dangoswch eich datganiad i’ch ffrind neu i ymgynghorydd gyrfaoedd 
  • Gwnewch gopïau 
  • Cymerwch eich amser, byddwch yn amyneddgar er mwyn ei wneud yn iawn 
  • Ail-ddarllenwch y prospectws a’r wybodaeth am y cwrs/pwnc cyn cychwyn 
  • Peidiwch ag enwi prifysgolion 
  • Gwnewch yn siŵr fod pob brawddeg yn ychwanegu rhywbeth newydd. 
  • Defnyddiwch yr enghreifftiau mwyaf diweddar ac addas o ddiddordebau a gweithgareddau allgyrsiol. 
  • Byddwch yn bersonol, yn bositif a pheidiwch â bod yn ddiflas