Tyrbin gwynt a ffotofoltaidd

Ynni Adnewyddadwy

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Ynni Adnewyddadwy

Pam Astudio Ynni Adnewyddadwy?

  • Mae ein staff yn arwain y byd ym maes ymchwil ynni adnewyddadwy o'r môr, maent wedi ysgrifennu “y” gwerslyfr ar y pwnc, ac ar flaen y gad o ran datblygiadau masnachol ac ymchwil a datblygu yn y sector, gan arwain projectau ymchwil mawr a rhoi arweiniad yn llawer o'r cynadleddau pwysicaf yn y byd.
  • Mae gennym long ymchwil a ddefnyddir yn helaeth wrth addysgu ac ymchwilio i fesur adnodd ynni'r cefnfor o amgylch arfordir Cymru. Byddwch yn defnyddio llawer o setiau data ymarferol o fywyd go iawn a chael cyfle i gymryd rhan mewn mordeithiau addysgu ac ymchwilio, gan ddefnyddio amrywiaeth o'r offer diweddaraf.
  • Rydym yn gartref i arsyllfa arfordirol sy'n bwydo gwybodaeth amser real y gellir ei defnyddio i fonitro adnodd ynni'r cefnfor.
  • Mae gennym gyfleusterau uwchgyfrifiadura y gellwch eu defnyddio, ar y cyd â data a gasglwyd, i efelychu adnodd ynni'r cefnfor yn fanwl dros gyfnodau hir.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ynni Adnewyddadwy

Mae hwn yn ddiwydiant uwch-dechnoleg byd-eang ac o ganlyniad mae cyfleoedd gyrfa yn helaeth. Yn ogystal â chael cyfle i weithio'n uniongyrchol i ddatblygwr ynni cefnfor, fe allech chi weithio i gwmni ymgynghorol metocean i ddatblygu modelau ac arsylwi'r adnodd in situ, cwmnïau sy'n cynnal arolygon oddi ar yr arfordir; cyrff amgylcheddol llywodraethol ac anllywodraethol, fel Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n pryderu am effeithiau ynni'r cefnfor; y Swyddfa Dywydd, a sectorau cysylltiedig fel gwynt alltraeth.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor

Ein Hymchwil o fewn Ynni Adnewyddadwy

Mae ein harbenigeddau ymchwil yn cynnwys Ynni, yr Amgylchedd a Bio-synhwyro (EEBG); Solar; Môr; Biosynhwyro; Synhwyro amgylcheddol; Sefydliad y Dyfodol Niwclear. Caiff arbenigedd yn y meysydd hynny ei ymgorffori yn ein gweithgareddau dysgu, gan roi llwybr uniongyrchol i'r myfyrwyr at yr ymchwil diweddaraf mewn Ynni Adnewyddadwy.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?