Llong ymchwil Prince Madog ar Y Fenai

Gwyddorau Eigion

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Gwyddorau Eigion

Pam Astudio Gwyddorau Eigion?

Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau'r eigion yn bwnc sydd â'i fryd ar y dyfodol. Ei ddiben yw adnabod problemau a dod o hyd i atebion.  

Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i'r hinsawdd sy'n cynhesu. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr o ynni adnewyddadwy o'r llanw sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o system y ddaear, yr atmospher a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor. 

Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin â phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.

  • Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
  • Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r môr, sy'n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau mewn aberoedd, ar lan y môr ac ar y môr.
  • Mae gennym long ymchwil fordwyol gwerth £3.5m.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Gwyddorau Eigion

Mae graddedigion gwyddorau'r eigion yn gallu gweithio mewn amrywiaeth eang o swyddi, gan gynnwys asesu effaith amgylcheddol a thocsicoleg, monitro/trin llygredd a rheolaeth ar waredu gwastraff, peirianneg arfordirol a pheirianneg ar y môr (er enghraifft yng nghyswllt y diwydiant ynni adnewyddadwy o'r môr sydd ar dwf). Gan ein bod wedi bod yn dysgu gwyddorau eigion yma ym Mhrifysgol Bangor ers dros 50 mlynedd fe welwch raddedigion o Fangor mewn swyddi blaenllaw yn y rhan fwyaf o'r diwydiannau hyn.

Mae gradd gwyddorau'r eigion nid yn unig yn cynnig gwybodaeth wyddonol gadarn am amgylchedd y môr, ond hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar sgiliau allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Eigion

Mae ymchwil gwyddorau'r eigion ym Mhrifysgol Bangor yn rhychwantu'r byd. Mae ein hymchwil, sydd gyda'r gorau yn y byd, yn ymdrechu i adnabod achosion enciliad yr iâ ym Môr yr Arctig ac effaith cynhesu byd-eang a llygredd plastig ar riffiau cwrel trofannol. Mewn cydweithrediad â'r British Antarctic Survey ac eraill rydym yn ddiweddar wedi canfod lefelau o ficroplastigion sy'n peri pryder mewn ffiordiau dilychwin yn yr Antarctig. 

Mae ein hymchwil yn astudio hanes y ddaear. Rydym wedi datblygu technegau i feintioli hinsoddau'r gorffennol ar y blaned ac yn defnyddio modelau rhifiadol cymhleth i edrych ar y prosesau allweddol a oedd yn gyrru'r hinsoddau hynny. Yn ddiweddar rydym wedi nodi 'uwch gylchred llanw' sy'n gysylltiedig â drifft cyfandirol ac rydym bellach yn deall sut y gallai'r llanw fod wedi dylanwadu ar esblygiad bywyd ar y ddaear. Rydym wedi gweithio ar y cyd â NASA yn archwilio cyfraniad llanw'r môr at esblygiad cynnar y blaned Fenws.

Rydym hefyd yn sefydliad blaenllaw mewn ymchwil i wyddor pysgodfeydd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r llanw.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?