Clychau'r Gog mewn coedwig yn y gwanwyn.

Coedwigaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Coedwigaeth

Pam Astudio Coedwigaeth?

Mae coedwigoedd yn hanfodol i'r ecosystem fyd-eang ac maent yn gorchuddio 30% o arwynebedd tir y byd. Mae coedwigaeth yn ymwneud â deall a rheoli'r coedwigoedd hynny mewn modd cynaliadwy er lles cymdeithas. Mi wnaiff astudiaethau ôl-radd eich paratoi ar gyfer her rheoli coedwigoedd a'r holl fanteision sydd iddynt, ar adeg o newid amgylcheddol byd-eang.

Rydym yn dysgu mewn modd ymarferol gan ddefnyddio'r lleoliad unigryw sydd gennym yn helaeth trwy gyfuno darlithoedd traddodiadol â theithiau maes sy'n cyflwyno materion gwirioneddol ymarferol sy'n ymwneud â choedwigaeth a materion amgylcheddol cyfredol. Mae gennym rwydweithiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol helaeth a rhaglenni ymchwil sy'n fodd inni ddarparu addysg dda sy'n rhoi sylw i faterion cyfoes, fel y gwelwn yn adroddiad y myfyriwr cyfnewid o Ganada. Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflwyno myfyrwyr iddynt. Ymhlith y rheiny mae Cyfoeth Naturiol Cymru,Y Comisiwn Coedwigaeth,Coed Cadw,Forest ResearchaSefydliad y Coedwigwyr Siartredig.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Coedwigaeth

Mae rheoli adnoddau naturiol, a rheoli coedwigoedd yn benodol, yn dod yn fwyfwy pwysig, ac o ganlyniad mae'n hysbys bod prinder sgiliau yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae'n graddedigion yn cael gwaith yn gyflym o'r herwydd. Mae graddedigion ein cyrsiau wedi sicrhau swyddi perthnasol yn sefydliadau'r sector cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn UE a thramor. Mae'r cyrsiau MSc hefyd yn arwain at ymchwil ôl-radd, ac maent wedi cynhyrchu gwyddonwyr ymchwil o'r radd flaenaf ym meysydd bioleg coed, gwyddor coedwigoedd, a rheoli adnoddau naturiol.

Ein Hymchwil o fewn Coedwigaeth

Mae ein tîm ymchwil yn amlddisgyblaethol ac mae'n cynnwys pob agwedd ar wyddor coedwigaeth.  Mae gennym raglenni ymchwil ar waith sy'n rhychwantu coedwigoedd  boreal a throfannol. Mae ein gwaith yn ymwneud â choedwigoedd ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd, lliniaru, datgoedwigo, bioamrywiaeth, adfer ar ôl trychineb, diogelwch bwyd, amddiffyn rhag llifogydd, cylchu maetholion, lles dynol, cadwraeth a swyddogaeth coedwigoedd mewn hamdden.

Mae Bangor ar flaen y gad ym maes ymchwil coedwigaeth ryngwladol ac mae gennym enw da iawn am ein gwaith ymchwil. Mae'r myfyrwyr a'r staff academaidd yn cydweithio'n gyson â sefydliadau rhyngwladol megis y Ganolfan Ymchwil Amaethyddol Trofannol ac Addysg Uwch, Costa Rica (CATIE),  Canolfan Ymchwil Coedwigaeth Ryngwladol, Indonesia (CIFOR), a Chanolfan Coedamaeth y Byd (ICRAF).

Mae gan Goedwigaeth@Bangor ddau o gyfleusterau gwych a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau addysgu ac ymchwil.Gardd Fotaneg TreborthaChanolfan Ymchwil Henfaesnid nepell o Fangor.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?