Arbrofi prydau a dail petri

Bioleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Bioleg

Pam Astudio Bioleg?

Cewch eich dysgu gan staff o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sy'n arbenigwyr yn eu maes. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau bod yma ac rydym yn ymfalchïo yn ansawdd y dysgu a'r gofal bugeiliol a gynigiwn. Mae gennym draddodiad hir o ddysgu ac ymchwil ym maes gwyddorau biolegol. Mae ymchwil a gyflwynwyd gan ein staff wedi ei gydnabod o fod ymhlith yr 20 uchaf yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, 2014).

Mae gennym adnoddau rhagorol ar y campws ar gyfer astudio planhigion ac anifeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys ein hamgueddfa byd natur ein hunain, gardd fotaneg, acwaria dŵr croyw a môr, casgliad o nadroedd gwenwynig, labordy pridd tanddaearol mwyaf Ewrop, adardai, llong ymchwil sy'n mynd ar deithiau ymchwil pell a fferm ymchwil. Defnyddir y rhain i gyd yn gyson at ddibenion dysgu ac ymchwilio.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bioleg

Mae cyfnod ôl-genomeg yr unfed ganrif ar hugain yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gwaith yn y meysydd amaethyddol, meddygol, fferyllol, dyframaethu, fforensig a gwyddor yr amgylchedd. Mae economïau Tsieina ac India, sy'n datblygu'n gyflym, yn benodol wedi sylweddoli'r cyfleoedd enfawr y mae biotechnoleg yn eu cynnig.  Mae swyddi ym meysydd gwerthu a marchnata gyda chwmnïau gwyddonol eu natur hefyd yn gyffredin. Bydd rhai graddedigion hefyd yn dewis helaethu a dyfnhau eu gwybodaeth trwy gyflawni rhaglenni PhD mewn meysydd perthnasol.

Mae ein graddedigion yn awr yn mwynhau gyrfaoedd mewn ymchwil (yn y byd academaidd ac mewn sefydliadau ymchwil) yn ogystal ag mewn swyddi ymgynghorol amgylcheddol masnachol, DEFRA, awdurdodau dŵr, cyhoeddi gwyddonol, penseiri tirwedd a llawer mwy.

Ein Hymchwil o fewn Bioleg

Rydym yn cefnogi ymchwil helaeth a thrwyadl mewn nifer o feysydd, yn cynnwys: ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraeth, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynhyrchu planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?